Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

taf a phleser wedyn, ac oni bydd i ddyn actio yn ol y rheol hon, wna'i fusnes na'i bleser ddim para'n hir.

CREFYDD Y BRIWSION.—Yr oedd Lazarus, y cardotyn hwnnw, yn gorfod treio byw ar y briwsion a syrthiai oddiar fwrdd y gŵr goludog. Felly y mae crefydd gan lawer o bobl yn gorfod gwneud ar ryw friwsion sydd yn syrthio oddiar fwrdd y byd—briwsion o amser, a briwsion o feddwl a myfyrdod.

NID GELYN OND GELYNIAETH.—"Y mae pechod yn elyniaeth yn erbyn Duw." Yn elyniaeth, glywch chi? Yr unig beth ellir ei wneud â gelyniaeth yw ei lladd, a dyna sy'n cael ei wneud yn nhrefn achub pechodau trwy Groes Crist. Nid lladd y gelyn ond lladd yr elyniaeth.

Dro arall: Y mae modd cymodi gelyn, ond nid felly elyniaeth. Gellir newid natur pechadur, ond ni all anfeidrol ras y Nef newid natur pechod.

SYMUD DAEAR.—"Nid ofnwn pe symudai'r ddaear." Yr hen ddaear yma, wrth ryw chwyrnellu troi yn yr ehangder, fel yn rhyw golli ei balans, ac yn rhuthro'n ddilywodraeth ar draws un o'r byd— oedd eraill yna, nes trwy'r jerc a'r ysgydwad y byddo'i phreswylwyr yn dropio oddiar'i hwyneb i'r gwagle mawr,—ofnwn i ddim—ddim byd, "pe symudai'r ddaear."

CYNNAL YR ACHOS.—Buasai'n hawdd iawn i Fab Duw gael digon o ddarpariaeth tuag at gadw'i fam. Buasai deddfau natur yn barod ar ei amrantiad, fel y gigfran yn porthi Elias. Buasai angylion y nef— oedd yn falch iawn o gael bod yn waiters i'w fam