peth, neu yn ddim, os gallant mewn rhyw fodd eu gwthio eu hunain i ffafr mawrion y byd. Fel y dywed Macaulay am Boswell, bywgraffydd Johnson, y byddai'n wastad fel yn rhyw orweddian o gwmpas traed rhyw ŵr mawr gan geisio gan hwnnw fod mor garedig a phoeri am ei ben o.
PYNCIO YN LLE GWNEUTHUR.—"Pwy a bechodd, a'i hwn ai ei rieni, &c." Yn 'toedd rhyw bellter mawr iawn rhwng ein Hiachawdwr â'r rhai oedd o'i gwmpas o hyd. Y peth cyntaf y mae nhw'n wneud ydi rhyw ddechrau sych-byncio ynghylch y creadur tlawd—yn lle gofyn i'r Athraw gymryd trugaredd arno.
EANGFRYDEDD.—O, yr oedd rhyw ehangder goruchel yn ysbryd yr Iesu, rhyw hyd a lled a dyfnder yn ei gydymdeimlad. Yr oedd culni meddwl ac anoddefgarwch o eraill yn annioddefol iddo. "Martha, Martha, gofalus a thrafferthus wyt ti." Nid anghofiodd Martha ddim tra bu byw dôn ei lais pan oedd yn ei cheryddu oblegid ei bod hi mewn tipyn o dempar yn achwyn ar ei chwaer. A cherydd. bach tebyg gawsai Mair tase hi yn beio ar Martha am drotian ar hyd y fan honno, a chadw twrw efo'i thrafferth, yn lle eistedd wrth draed yr Athraw.
HELYNT EDAD.—"Y mae Edad," meddai rhywun wrth Moses, tan redeg fel pe buasai'r byd ar ben, "y mae Edad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll. "Moses, gwas yr Arglwydd, gwahardd iddynt—stopia nhw—pa fusnes sydd ganddynt hwy?" "Tewch a'ch swn," meddai Moses lariaidd, "Mi a fynnwn pe bai holl bobl yr Arglwydd yn broffwydi—does dim eisio gwneud y fath helynt efo peth fel yna."