CYMWYNAS RAGRITH.—"Y mae'r dynion hyn yn llwyr gythryblio ein dinas ni—'does yma drefn ar ddim er pan mae nhw yma—y lles cyhoeddus sydd yn ein cynhyrfu ni—amgylchiadau'r ddinas." Rhagrith i gyd—celwydd bob gair!—colli gobaith eu helw hwy eu hunain oedd y cwbl. Y mae peth fel hyn i'w weld o hyd—rhai yn cymryd arnynt mail lles y bobl sydd yn eu cynhyrfu i rywbeth, pryd na bydd dim ond eu bod yn cael eu corddi gan ryw nwydau drwg a dibenion hunanol.
GWEDDIO YN DDIBAID.—Fedrwch chi ddim gweddio ar y dydd cyntaf o'r mis am stôr o fendithion i bara hyd ddiwedd y mis; y mae'n rhaid i chi "weddio'n ddibaid." Dogn dydd yn ei ddydd o fanna a gai'r Israeliaid—nid stôr am fis. Fasech chi, fuilders Lerpwl, fyth wedi gwneud eich ffortiwn wrth adeiladu warehouses yn y fan honno.
JOB.—"Oni chaeaist ti o'i amgylch ef." Gair neis iawn y mae Satan yn ei ddweud. Siarad y mae o mewn tipyn o natur ddrwg, a chael ei gynhyrfu gan ddiben drwg, fel bob amser; ond yr oedd o'n deall Rhagluniaeth y Nef yn bur dda. Dywed wrth yr Arglwydd am Job: "Oni chaeaist ti o'i amgylch ef," &c. Yr ydwi wedi bod yn roundio o'i gwmpas i edrych am ryw gyfle arno, ond yr wyt ti wedi cau arno mor glos, 'does dim modd cyffwrdd. ag ef.
DIFETHA JEHORAM.—'Doedd dim byw efo Jehoram heb iddo gael rhan o frenhiniaeth ei dad, ac y mae'n addo, os cai hynny, roddi heibio bob drygau. Y mae'i dad, y creadur dwl hwnnw, yn ildio iddo. Y mae'n ceisio'i ddiwygio trwy'i hiwmro a'i