Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wobrwyo am addo peidio a gwneud drwg. Wyddoch chi be', y mae llawer crwtyn, ar ôl hyn, wedi'i ddi— fetha gan rieni duwiol, ond dwl, trwy gael gormod o'i ffordd ei hun—gormod o awdurdod, a gormod o arian yn ei boced, cyn bod digon o synnwyr yn ei ben i wybod beth i'w wneud efo nhw.

YSBRYD CRIST.—"Bod heb ysbryd Crist." Gwell bod heb bopeth—heb feddiannau, heb iechyd, heb barch gymdeithas, heb ryddid. Y mae llawer duwiol yn gorfod rhyw ymdaro yn y byd yma heb lawer o bethau. Gall llawer un ohonynt ddweud, Arian ac aur nid oes gennyf, tiroedd nid oes gennyf, tad a mam nid oes gennyf, amgylchiadau clyd nid oes gennyf." Y mae llawer ohonynt yn gorfod treio gwneud heb wybodaeth, na dysg, na doniau, a rhai heb gymaint o synnwyr cyffredin cryf yn y bydond 'does dim cymaint ag un heb Ysbryd Crist ganddo.

CYDWYBOD.—Y mae cydwybod yn dweud wrth y dyn fel y dywedodd Ruth wrth Naomi, "lle bynnag yr elych di, yr af finnau." Pan mae'r gydwybod yn medru dweud "da iawn ydoedd" y mae hi'n rhoi rhyw seithfed dydd gorffwystra.

YR YSBRYD ODDIMEWN.—Ni all y gwyntoedd a'r ystormydd mwyaf tymhestlog sydd o amgylch y ddaear mo'i hysgwyd. Gallant chwalu, a pheri galanastra; ond nid ei hysgwyd. Cyffro oddimewn iddi sy'n gwneud hynny. Gall ystormydd o'r tu allan ddrysu llawer ar ein cysuron, a chwalu ein cynlluniau, ond terfysg cydwybod sy'n peri daeargryn yn yr holl enaid.