Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyfranant tuag at y Capel Newydd. Yr ydym yn deall mai y prif ysgogydd yn y mater oedd David Roberts, Ysw., Tan'rallt a Liverpool, yr hwn sydd bob amser yn esiampl i bawb mewn haelioni at bob achos da.

Aeth o amgylch at amryw o'r cyfeillion i edrych pa fodd yr oeddynt yn teimlo at y cynygiad o gael Capel Newydd, a chafodd dderbyniad mor groesawgar, ac addewidion am symiau mor dda, fel y teimlai Mr. Roberts yn hyderus fod y cyfeillion ereill yn y lle yn meddu yr un ysbryd haelionus. Wedi cyd- ymgynghori a'r cyfeillion, barnwyd mai y peth doethaf oedd iddynt roddi cyfleusdra i bawb roddi eu haddewidion yn gyhoeddus, gan gredu y byddai eu haelioni hwy yn ol geiriau yr Apostol yn foddion i "anog llawer iawn ereill" i ddangos yr un haelioni; ac y mae yn dda genym ddyweyd fod y canlyniad nos Wener diweddaf wedi profi doethineb eu cynllun. Er mwyn creu cymaint a ellid o ddyddordeb yn y symudiad, cydeisteddodd oddeutu tri chant o bersonau i yfed te rhagorol a barotoisid gan wahanol foneddigesau perthynol i'r eglwys, am yr hwn yr oedd pob un yn talu swllt. Amcan y tea party hwn oedd, nid yn gymaint cael arian at y capel, ond cael ychydig o gymhorth i roddi te am ddim i holl blant yr Ysgol Sabt thol perthynol i'r capel, yr hyn a wnaed ddydd Sadwrn diweddaf. Y Y Cyfarfod Hwyrol.—Cynhaliwyd y cyfarfod hwn am haner awr wedi chwech. Yr oedd y capel yn llawn o gynulleidfa barchus; ac yr oedd sirioldeb yn teyrnasu ar bob wyneb, yr hyn a ddangosai eu bod wedi dyfod ynghyd i gefnogi achos ag oedd yn agos iawn at eu calonau. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Henry Rees, Liverpool. Cymerwyd y gadair gan D. Roberts, Ysw., Tanyrallt, yr hwn a ddywedodd: Y mae yn llawen genyf weled y cyfarfod hwn mor liosog, a phawb yn ymddangos mor siriol a hyfryd. Nid wyf yn meddwl fod eisieu i mi dreulio ond ychydig o amser i ddyweyd beth ydyw amcan y cyfarfod hwn. Nid oes un amheuaeth nad oes yma angen am gapel newydd. I brofi hyn, nid oes eisieu ond dyweyd fod y capel hwn yn rhy fychan, a bod yn anmhosibl cael eisteddleoedd ynddo i gyfarfod â'r gofyn am danynt. Pan ddaethum i yma, ni ellais gael ond haner set, ac yr oedd amryw ereill yn yr un amgylchiad; ac y mae Abergele wedi cynyddu llawer ar ol hyny, yr hyn sydd yn peri fod mwy o angen fyth am addoldy helaethach. Yn ol y lle sydd genym yn awr, nis gallwn fyned allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau" i wahodd dynion i ddyfod i'r addoliad, oblegid nid oes genym ddim lle i'w rhoddi. Ond yn bresenol, yr ydym yn gwneyd cynygiad i adeiladu capel newydd eang a hardd, ac yr ydym yn meddwl mai ewyllys yr Arglwydd ydyw i ni wneyd hyn, oblegid y mae Efe yn ei Ragluniaeth ddoeth a da wedi agor y ffordd mewn modd neillduol i ni gael tir cyfleus i adeiladu