Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

crefydd natur, o bosibl yn rhatach. Nid oedd ynddi hi un deml, oddieithr y greadigaeth; yr un eglwys na gwasanaeth crefyddol, oddieithr yn deuluaidd; nac un swyddog, oddieithr y pen teulu. Yr oedd crefydd, y pryd hwnw, gan mwyaf, hwyrach, yn gynwysedig mewn sancteiddrwydd ac ufudd-dod moesol. Wedi'r cwymp, yr oedd crefydd yn llawer iawn mwy costus. Fe welir yn eglur yn y Beibl fod dynion trwy'r oesoedd yn dwyn. o'u meddianau bydol i'r Arglwydd; ie, ac yn dwyn y goreu yn wastad hefyd. Dacw Cain ac Abel, y naill yn dwyn cynyrch y ddaear, a'r llall yn dwyn blaenffrwyth ei ddefaid, ac o'u brasder hwynt. Crefydd yn nyddiau Enoch oedd rhodio gyda Duw, a diamheu iddo gwrdd â llawer gate i'w thalu yn ffordd y cymundeb, cyn cyrhaedd i'r nefoedd. Crefydd Noah oedd gwneuthur yr arch; a chrefydd Abraham oedd gadael ei wlad, ac offrymu ei unig anedig fab. Os meddyliwn drachefn am y tabernacl yn yr anialwch y bobl oedd i godi hwnw; a dygasant hefyd eu pethau goreu ato, eu haur, eu harian, a'u tlysau. Ac, O! yr ysbryd oedd yno. Yr oedd y gwersyll yn llawn gwaith, a'r cwbl yn waith i Dduw. Yr oedd pob morthwyl yn curo, pob troell yn nyddu, pob gwaell yn gwau at y tabernacl, nes yn ebrwydd yr oedd yno ddigon a mwy na digon i'r gwaith. Yr oedd y gwasanaeth a ddygid ymlaen yn y tabernacl yn un costus iawn; a'r bobl oedd yn cynal y cwbl. Y bobl oedd yn dwyn yr aberthau drudfawr, o'r oen blwydd i'r bustach seith-mlwydd, yn feunyddiol, blynyddol, ac yn achlysurol, weithiau, yn ganoedd o rifedi. Fe neillduwyd un llwyth o'r deuddeg yn unig i wasanaethu Duw a'i dabernacl, ac yr oedd y llwyth hwnw i gael ei gynal gan y llwythau ereill. Yr oedd yr offeiriaid yn bwyta megis ar yr un bwrdd a Duw, a'r bwrdd hwnw yn cael ei gyflenwi trwy'r oesoedd gan y bobl. Os meddyliwn drachefn am y deml yn Jerusalem, gan y bobl y codwyd hi. A rhyfedd yr ysbryd, a rhyfedd y swm a gododd Dafydd a'i bobl at yr amcan hwnw. Beth oedd y draul i gynal y gwasanaeth hwnw am oesoedd? Ac eto, ni chawn mo Israel byth mor llwyddianus a phan yn ffyddlawn i Dduw a'i dy, a byth yn fwy tlawd a thruenus eu cyflwr a phan yn gybyddlyd a chrintachlyd at ei achos. A yw Duw yn gofyn llai wedi iddo roddi ei Fab? Na, fe'i gadawyd ef mewn tlodi o bwrpas i'w gyfeillion gael cyfleusdra i ddangos eu caredigrwydd iddo. Dechreuodd ei oes yn y preseb, a diweddodd hi ar y groes, a'r holl flordd rhwng y ddau heb le i roddi ei ben i lawr. Dangosodd y rhai a'i carai eu cariad ato yn union mewn haelioni. Daeth y doethion, nid yn unig i'w addoli, ond i gyfranu o'u meddianau iddo. Yr ydym yn cael fod gwragedd yn gweini iddo o'r pethau oedd ganddynt; a thorodd un wraig flwch o enaint o nard gwlyb gwerthfawr, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef. Prynodd Joseph o Arimathea, yr hwn a fuasai ddisgybl i'r Iesu, liain main