Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyfanswm y casgliad hwn pan y daeth y cwbl i law, yn ol cyfrifon manwl y Parch. Robert Roberts, Dolgellau—y pryd hwnw o Abergele—oedd £2001 18s. 7c. Ond chwanegwyd ato cyn hir symiau a adawyd gan ddwy foneddiges yn eu hewyllysiau, sef yr eiddo Mrs. Williams, Druggist, £500, a Mrs. Wynne, Post Office—cyn hyny o Ala Fowlia, Dinbych—£50. Nodwyd allan le yr adeilad yn Mawrth, 1867, dechreuwyd adeiladu ddydd Llun, Mai 13eg, a gorphenwyd yn Awst, 1868. Pregethwyd ynddo y waith gyntaf y Sabbath, Awst 9fed, gan y Parch. Henry Rees, Liverpool. Costiodd yr adeilad yn agos i bedair mil o bunau, heb gyfrif y gwaith a wnaed yn ddi—dâl gan gynifer âg wyth—ar—hugain o amaethwyr yr ardal. Ac er mor egniol oedd yr ymdrech a wnaed, yr oedd dyled o dros fil o bunau yn aros heb ei thalu.

Am rai blynyddau gadawyd y ddyled hon heb wneyd un ymgais tuag at ei lleihau. Yn niwedd 1883, modd bynag. yn gyfamserol a dyfodiad y gweinidog presenol i gartrefu yma, penderfynwyd ei dileu. Ei swm y pryd hwnw oedd 1009, neu yn hytrach 1159 os cyfrifir y £150 a roddasai y diweddar Mr. John Lloyd yn fenthyg ar y capel, ond a adawsai yn ei ewyllys i dalu y ddyled ar ol marwolaeth ei briod, ar y dealltwriaeth ei bod hi i gael y llog am y swm tra y byddai byw. Ni chyfrifid y swm hwn, gan hyny, yn hollol fel dyled. Bu Mrs. Lloyd farw Medi 1, 1889. Yn ei awydd i gefnogi yr yspryd rhagorol a welai yn y frawdoliaeth, cynygiodd Mr. David Roberts, Tanyrallt, gyfarfod yr oll a wneid gan yr eglwys a'r gynulleidfa, bunt am bunt, hyd yn £500. Ar unwaith gwelwyd y lan. Daeth rhai yn mlaen gyda'u haner canoedd, ac eraill gyda symiau llai; ac erbyn diwedd 1887 yr oedd y cwbl o'r ddyled wedi ei chlirio. Rhagfyr yr 28ain y flwyddyn hono cynhaliwyd cyfarfod arbenig i ddathlu yr amgylchiad, pryd yr hysbysai Mr. Hugh Williams, 1, Sea View—casglydd diwyd a di-orphwys y