Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

achlysurol, i lanw pulpudau, a gwna hyny yn dra chymeradwy. Y blaenoriaid presenol ydynt:—

Mr. John Jones, Bodeifion ——— 1877.
Mr. Edward Williams, Peel ——— 1877.
Mr. J. Herbert Roberts, A.S. ——— 1887.
Mr. Isaac Williams, Blytheham ——— 1896.
Mr. G. T. Evans, N. & S. W. Bank ——— 1900.
Mr. John H. Lewis ——— 1904.
Mr. John Davies, Gwreiddyn ——— 1904.

PENNOD VII.

Yr Achosion Cymraeg a Saesneg yn Mhensarn.

COFFHAWYD eisoes ddarfod i'r frawdoliaeth yn Abergele ragweled yn dra phrydlon yr angen yn misoedd yr haf, o leiaf, am weinidogaeth yn yr iaith Saesneg yn Abergele, neu ynte yn Mhensarn. Y gwr fu a'r llaw flaenaf yn y symudiad hwn oedd Mr. John Jones, Jessamine Villa, un o flaenoriaid. eglwys y dref. Y man y penderfynwyd arno oedd Pensarn. Sicrhawyd tir ar brydles, ac adeiladwyd capel yn 1858; ond rhaid addef mai anffodus fuwyd yn y safle, gan ei fod yn y gongl fwyaf anamlwg yn y pentref. Y gweinidog a bregethodd ynddo fore a hwyr Sabboth ei agoriad oedd y Parch. W. Howells, y pryd hwnw o Liverpool, wedi hyny. Prifathraw Coleg Trefecca. Yr oedd yno Ysgol Sabbothol Gymraeg, a chyfarfod gweddi ar noson waith yn cael eu cynal mewn ty anedd eisoes, a bwriedid i'r rhai hyny ar ol adeiladu y capel gael eu symud iddo, ac felly y bu. Tua'r flwyddyn 1875 teimlid mai buddiol fyddai i'r moddion