Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BETTWS-YN-RHOS.

GAN Y PARCH. O. FFOULKES.

—————————————

YN y Pistyll Gwyn, yn agos i Beniarth Bach, y cawn i'r Ysgol Sabbothol gael ei dechreu yn nghymydogaeth y Bettws, a hyny yn mis Medi, 1800. Y rhai oedd yn byw yno ar y pryd ydoedd John Jones a Mary, ei wraig, sef taid a nain John Jones, Prince Arthur Cottage. Pensarn, Abergele.

Cyfnod tywyll a phruddaidd ydoedd hwn. Yr oedd y campau yn eu bri yr adeg hon, yn arbenig yn Nhafarn-y-Pwll, Llangernyw, Abergele, a Llansannan—ymladd ceiliogod, betio, gwerthu crymanau, cyflogi, a neidio; ac ar y Sabboth, gan mwyaf, y cyflawnid y pethau hyn. Y Sabboth ydoedd dydd mawr eu cyfarfod, ac elai y chwareuwyr o'r naill le i'r llall, fel y byddai y campau wedi eu cyhoeddi, a'r tebyg yn ymgasglu at ei debyg.

Gyda hyn daeth i feddwl y bobl oreu oedd yn yr ardal i ddechreu Ysgol Sabbothol, er cael cyfle i wareiddio eu cymydogion, a'u dysgu i ddarllen Gair Duw. Araf iawn y llwyddodd yr ysgol yn y Pistyll. Yn 1802 cawn mai un-ar- bymtheg o ysgolheigion, a thri o athrawon ydoedd y nifer wedi dwy flynedd o lafurio.

Symudwyd yr Ysgol Sabbothol o'r Pistyll i dy yn Bronllan yn 1804, ty un o'r enw Evan Evans, a Margaret, ei wraig; symudodd Evan a Margaret Evans yn fuan o'r Bronllan i fyw i'r Bettws, i dy o'r enw Court Bach, a symudwyd yr Ysgol Sabbothol yr un pryd. Yr oedd cegin fwy cyfleus i gynal ysgol yma, ac yn y lle hwn yr arosodd am gyfnod