Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y penaf oll yn y cyfnod boreuol hwn ynglyn â'r Ysgolion Sabbothol ydoedd Edward Owen, Penybryn; trwy ei lafur ef yn benaf y cadwyd yr ysgolion yn fyw. Dywedir ei fod am gyfnod yn arolygwr, ysgrifenydd, ac yn fynych yr unig athraw fyddai yn bresenol; dechreuai a diweddai yr ysgol ei hunan am amser maith. Bu y ddwy ysgol i raddau mawr dan ei ofal ef. Efe, hefyd, ddaeth a'r arfer dda hono i'r ardal, sef cynal cyfarfodydd gweddio yn y tai. Cynhelid hwy mewn amryw fanau, a bu hyn yn dra bendithiol. Byddai pregeth hefyd yn achlysurol yn y cyfnod hwn yn Sirior Goch, Pistyll Gwyn, Wern Ciliau, Wern Bach, Court Bach, Gwyndy. Ucha', Bodrochwyn, Bwlchgwynt, Llidiart y Porthnyn, a'r Dafarn Bara Ceirch.

Yn gynar yn nechreu y ganrif o'r blaen daeth David Roberts, Bodrochwyn, yn amlwg yn mysg crefyddwyr yr ardal. Dyn wnaeth ei ran yn rhagorol ydoedd yntau; o foddion mwy na chyffredin o amaethwyr y gymydogaeth yr adeg hono, a chyfranodd odid fwy na neb arall o honynt at y weinidogaeth ac achosion da eraill. Os oedd Edward Owen yn ofalus am yr Ysgolion Sabbothol, David Roberts fyddai yn gofalu am bregethwr, a'i gydnabod, a rhoddi iddo letty. Yn y cyfnod boreuaf byddai pregethwr yn do'd i'r Bettws o'r Nant Fawr am ddau o'r gloch, ac i Cefn Coch am chwech. Ceir a ganlyn yn llyfr David Roberts:—

"1802. Mai 3, J. Jones, Nant, boreu; Sirior Goch am 2; a'r Cefn am 6. Medi 14, 1802, J. Parry am 6 yn y Wern Bach. Medi 25, Davies am 2 yn Court Bach; cyfarfod gweddi yn y Pistyll Gwyn am 6. 1803. Am 2, D. Hughes. yn Wern Bach; talu 2s. Ebrill. Eto, am 2, T. Jones, talu 2s. Mai, yn ysgubor Ty Isa'. Eto, am 10, yn Sirior; am 6 yn Court; J. Parry; talu 4s. Gorphenaf."

Yn 1816 daeth y Parch. T. Jones, o Ddinbych, i fyw i Sirior Goch, a Henry Rees yn was gydag ef. Ni bu y Parch. T. Jones ond dwy flynedd yn Sirior, aeth yn ol i Ddinbych;