Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac aeth Henry yn was i Cefn Castell at David Lloyd. Yr oedd yn aelod o'r Ysgol Sabbothol, ac efe oedd y dechreuwr canu. Efe oedd yn dechreu canu ar agoriad y capel cyntaf. Yr oedd wedi ymadael o Gefn Castell erbyn hyn, a myned i'r ysgol at y Parch. Thomas Lloyd, i Abergele, ac yn dechreu pregethu. Cafodd John Elias odfa ryfedd am ddau o'r gloch, ac aeth Henry i orfoleddu ar risiau y pulpud. Daeth wedi hyny yn Henry Rees, Amwythig, ac yn ddiweddarach o Liverpool. Adroddir fod un o'r enw Edward Evans, o'r Bettws, yn arfer myned i wrando, ynghyd â llanc arall o'r enw Copner Williams. Parhaodd ddau i ddilyn am gyfnod, ac i ddangos mawr sêl. Daeth y ddau yn aelodau eglwysig yn y Bryngwyn, ac hefyd rhyw Miss Williams —dywedir mai nain Mr. Oldfield, Bettws, ydoedd, a hen naini Mr. J. E. Oldfield, presenol o'r Ffarm. Enillodd. Evans a Copner Williams ddigon o wroldeb i fyned i Gymdeithasfa i'r Bala i ofyn cyhoeddiadau gan wyr dyeithr i ddo'd ar eu tro i'r Bettws. Yr oedd y Gymdeithasfa hon yn 1811[1], a cheir enwau nifer o bregethwyr y flwyddyn hon, sef J. Jones, John Davies, T. Jones, W. Jones, P. Roberts, a Davies, ond diau mai nid Davies, Castellnedd, ydoedd hwn. Cawn yn Methodistiaeth Cymru ddarfod i Davies, Castellnedd, dalu ymweliad â'r Bettws tra ar ei daith (mae'n debyg fod hyny ugain mlynedd cyn hyn, neu ragor), ac i ryw hen wraig aflonyddu arno pan wedi dechreu pregethu, trwy geisio gwthio das o frigau ar ei gefn, iddo fethu myned ymlaen, ac iddo adael y Bettws, gan gyhoeddi melldith ar y lle oddi ar Allt Bronllan, ar ei daith i Cefn Coch, ac ni welwyd mohono mwy yn y fro.

Ryw nos Sabboth, yn 1818, yr oedd John Davies, Nantglyn, yn llettya yn Bodrochwyn, cartref y David Roberts y

  1. Y mae amheuaeth am y dyddiad hwn, Cydm. Meth. Cymru, III. 272, ynghyd a Hanes Abergele."—GOL.