Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

METHODISTIAETH YN ABERGELE

GAN Y PARCH. FRANCIS JONES.

PENNOD I

Cyn Adeiladu y Capel.

ER mai y Methodistiaid Calfinaidd yw yr enwad Ymneillduol hynaf yn Abergele, nid yw eu hanes hwy, o leiaf yn y dref, yn ymestyn ymhellach yn ol na blynyddau diweddaf y ddeunawfed ganrif. Oherwydd rhyw reswm—yspryd erledigaethus y trigolion fel yr ymddengys—byddai y pregethwyr Ymneillduol pan yn ymweled â'r amgylchoedd hyn yn wastad yn osgoi y dref. Yr oedd profiad yr efengylwyr yn y parthau hyn yn ddiau yn gyffelyb i'r hyn oedd ymron yn mhob man arall, fod y cyd-gasgliad o ddynion digrefydd a geid yn y trefi yn eu gwneyd yn hyfach a mwy ymosodol na'r rhai fyddai yn byw yn yr ardaloedd. A dywedir fod Abergele yn yr adeg hono yn hynod am ei hannuwioldeb. Hyd yn nod yn nechreu y ganrif ddiweddaf yr oedd yr ymladdfeydd a gymerai le ar y ffeiriau yn fwystfilaidd. Pan y byddai yr ymladdfa yn parhau yn hir, neu yn debyg o barhau felly, symudai yr ymladdwyr a'r cwmni i'r cae sydd yn mhen gorllewinol y dref—"Cae y Bee;" ac y mae rhai yn awr yn fyw sydd yn cofio un o'r ymladdfeydd hyny yn terfynu yn angeuol. Pa bryd y beiddiwyd wynebu ar y dref gan bregethwr Ymneillduol nid yw yn hysbys; ond myn traddodiad mai