Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr ymddiriedolwyr oeddynt:—Parchn. T. Jones, Dinbych; T. Lloyd, Abergele: J. Jones, Mochdre; a Peter Roberts, Llansannan; Mri. T. Lloyd, Ty mawr; J. Owen, Garthewin; a D. Jones, Shopkeeper.

Agorwyd y capel cyntaf (capel David Roberts) gan y Parchn. John Elias a John Davies, Nantglyn, yn y flwyddyn 1819.

Yn 1825 cawn fod 100 o ddyled ar y Bettws. Ymddengys mai gwaith y Cyfarfod Dosbarth yn rhanu y ddyled yn gyftal trwy y dosbarth yn ol rhif yr aelodau ydoedd yr achos o hyn, a lled anfoddog ydoedd y Bettws i'r cynllun hwn, heb gofio mai un corph ydym—"Dygwch feichiau eich gilydd." Yn y flwyddyn 1827 nid oedd eglwys y Bettws ond 30, a'r gynulleidfa ond 51. Y tri wyr mwyaf ymdrechgar gyda'r achos fel swyddogion yr adeg hon oeddynt David Roberts, John Owen. Ty'nyffridd, a David Jones, y crydd. Yr oedd J. Owen wedi cael mwy o addysg na'r cyffredin yn yr oes. hono. Efe ydoedd goruchwyliwr ystad Garthewin; symudodd oddi yma i gymydogaeth Cerrig-y-Druidion i fyw. Ond yr oedd David Jones lawn mor ddefnyddiol, ac efallai yn fwy felly na'r un o honynt, o herwydd ei gyfleusdra. Yr oedd yn ddyn cyson, yn meddu ar ddawn gweddi arbenig, ac yn ymadroddwr rhwydd. Byddai yn rhoddi anerchiad yn fynych ar ddiwedd cyfarfod gweddi, ac yn anog y bobl i sobrwydd. Rhagorai John Owen fel rheolwr a threfnydd, David Jones fel gweddiwr a chynghorwr, a David Roberts fel gofalwr a chyfranwr. Dau swyddog blaenllaw, hefyd, oedd Thomas Pritchard, Gwyndy Ucha', a Thomas Parry, Gwern Ciliau. Bu un gangen-ysgol yn nhy Thomas Parry, am gyfnod maith, a dywedir ei fod yn siriol a dengar gyda'r bobl ieuainc. Byddai yn fynych yn dysgu nifer o adnodau i'w hadrodd ar ddechreu yr ysgol, ac efe fyddai yn dechreu canu, er nad oedd bob amser yn sicr o'r mesur, ond gwnai yr hyn a allai. Dyn tawel ydoedd Thomas Pritchard, ac un