Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y lletyai y pregethwyr bob amser. "Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth." Yr oedd ei phriod hefyd yn wr dichlynaidd ei foes, ac yn wrandawr cyson, ond ni bu erioed yn aelod eglwysig.

Dyma y prif rai fu yn cychwyn achos y Methodistiaid yn Llanddulas. Cyn adeiladu capel Beulah arferai Robert Roberts a Mrs. Hughes fyned i gapel Llysfaen; a'r pryd hwnw cynhelid cyfarfodydd gweddio ar adegau yn y Ty Ucha.

Tua'r adeg yma daeth gwr o'r enw Edward Williams, a fuasai yn gadben gwaith mwn, o Gilcen, i fyw gyda'i fab yn y Pant, sydd yn awr yn adfeilion, ger Garthgogo. Bu hefyd yn gynorthwy sylweddol i'r achos yn Llanddulas. Yn gymaint a bod Beulah yr adeg hono, ac am lawer blwyddyn ar ol hyny, sef o 1845 hyd 1874, yn daith Sabbothol gydag Abergele, ac na cheid ond un bregeth bob Sabboth, a hono am ddau o'r gloch, gofynid yn achlysurol i Edward Williams roddi gair o gyngor. Yr oedd efe wedi bod yn pregethu yn gymeradwy am flynyddau, ond wedi ei atal oherwydd yfed i ormodedd. Eithr yn y Diwygiad Dirwestol yn 1835 adferwyd ef i fod yn llwyr ymwrthodwr, ac yn areithiwr gwresog ar Ddirwest; ond nid ymddengys y gwnaeth gais o gwbl am gael ail ddechreu pregethu. Oherwydd hyny, geiriau gochelgar Robert Hughes, y Lodge, wrth ei gyhoeddi ef fyddent, "Heno, bydd Edward Williams yn dweyd gair neu ddau." Yma dylid crybwyll mai Mr. Henry J. Roberts, Manchester House, Abergele, a gymerai y drafferth yn ddidraul i bawb ond efe ei hun, i gludo y pregethwr o'r dref i Llanddulas ac yn ol, tra y bu y ddau le yn daith.

Dywedasom mai un bregeth a gaem yma bob Sabboth, ond nid anfantais o bob cyfeiriad oedd hyny. Oherwydd ein cysylltiad â'r dref, yr oedd yr un hono yn fynych gan