Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Y Prydydd," fel y'i gelwid, am ei fod wedi ei ddonio a gradd o'r awen farddonol, neu o leiaf, yr oedd ef ei hun dan yr argraff hono. Olynydd Joseph Jones fel arweinydd y canu oedd HARRY HUGHES, Tanycae, goruchwyliwr ar waith mwn Bodelwydden, a bu ei wasanaeth i ganiadaeth y cysegr yn dderbyniol am gryn dymor. Gydag ef, ac ar ol ei amser ef, bu JOSEPH HUGHES ac ISAAC HUGHES, y ddau frawd y cyfeiriwyd atynt eisoes fel blaenoriaid, hefyd, yn gwneyd eu rhan gydag arwain mawl yr eglwys a'r gynulleidfa.

Gosodwyd yr eglwys yn Mhenybryn dan ddyled am y gwasanaeth ffyddlon a gafodd gan amryw o chwiorydd crefyddol a duwiol. Gellir enwi Mrs. Davies, y Gofer, a Mrs. Pierce, Bodegwal, fel rhai a gymerasant lawer o boen, neu yn hytrach a gawsant lawer o bleser "er mwyn ei enw Ef," drwy lettya pregethwyr a gweini llawer ar yr achos mawr am lawer blwyddyn.

Heblaw y brodyr a'r chwiorydd a nodwyd fel rhai fu'n flaenoriaid, yn arwain gyda'r canu, &c., bu yma hefyd gyda hwy frodyr selog a defnyddiol gyda'r Ysgol Sabbothol— John Williams, y Parc; Robert Hughes, yr Hendy; John Jones, Tanybargod (Ty Newydd ar ol hyny). Thomas Roberts, Penybont, ac eraill.

Bu dau bregethwr yn perthyn i'r eglwys yn Mhenybryn am dymor. Un oedd JOHN ROBERTS, ar ol hyny o'r Bettws, ac yn ddiweddarach o Llandudno, yr hwn oedd bregethwr mwyn a buddiol, ac a fu o wasanaeth effeithiol yn y seiat, a chylchoedd eraill, tra yma. Nid un mawr ei ddawn, ond dwfn ei dduwioldeb, oedd ef. Preswyliai yn y Ty Capel. Yma y dechreuodd ef bregethu yn 1830. Yma hefyd yr oedd y Parch. EMRYS EVANS, ar ol hyny o Cotton Hall, Dinbych, yn aelod tra y bu yn amaethu yn y ffarm a elwir y Llwyni, lle heb fod ymhell o Benybryn. Rhoddodd yntau a'i deulu lawer o