ac yn methu cael lle felly iddi. Yr oedd byd ac uffern fel am drechu yr eglwys. O'r diwedd, disgynodd llygaid craff Mr. David Roberts, Tan rallt, Abergele, ar faes bychan o ychydig erwau. Prynodd y maes. Rhoddodd ddarn digonol o hono i Gyfundeb y Methodistiaid i adeiladu cartref i'r eglwys fechan hon oedd yn ddigartref. Ar gongl y maes hwn yr adeiladwyd capel presenol y Morfa, yn y flwyddyn 1866. Nid oedd ar Mr. Roberts eisiau y maes iddo ei hun, ond yr oedd arno eisiau congl o hono at wasanaeth ei Dduw; ac ar ol sicrhau hono, gwerthodd y gweddill. Dyna y fath wr oedd Mr. David Roberts. Gwyn ei fyd. Mae y gwyn yn ymddangos yn wynach pan osodir ef i sefyll yn ymyl y du. Mae mab ac ŵyr Mr. Roberts, sef Mr. John Roberts a Mr. J. Herbert Roberts, i'w rhestru ymysg Seneddwyr Prydain. Nid felly neb o berchenogion yr etifeddiaeth a wnaethant yr eglwys fechan heb gartref. "Yr Arglwydd a edrych i lawr o'r nefoedd, ac a genfydd holl feibion dynion."
Pan sefydlodd hen eglwys Penybryn yn ei chartref newydd yn nghapel y Morfa, yn 1866, y blaenoriaid oeddynt y rhai canlynol:—
JOHN JONES, TY NEWYDD, yr hwn a ddewisasid i'r swydd cyn yr ymadawiad o Benybryn. Cawsai ei ddal gan yr efengyl ar brydnawn Sabboth, pan ar ganol hel afalau i'w bwyta. Ymsaethodd y geiriau hyny i'w feddwl gyda grym, "Cofia gadw yn sanctaidd y dydd Sabboth." Gwnaed ef yn greadur newydd o hyn allan. Daliwyd ef â gwys oddiuchod. Glynodd yn ffyddlen wrth grefydd tra bu yn Mhenybryn, yn y Sun, ac yn y Morfa. Nid gwr aml ei dalentau oedd, ond un a'i galon yn gwir ofalu am achos ei Waredwr, a hyny hyd derfyn ei daith, tua'r flwyddyn 1886.
Bu WILLIAM WILLIAMS, PLAS LLWYD, hefyd, yma yn flaenor am flynyddoedd olaf ei oes. Gwelir crybwyllion am dano ynglyn â hanes yr achos yn y Tywyn.