Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

traddododd y Parch. Henry Rees ei bregeth gyntaf ynddo, a'r llall mewn ty anedd o'r enw Court Field, yn y Bettws, lle y cartrefai Evan a Margaret Evans, hi yn ferch i Twm o'r Nant. Flynyddau yn ddiweddarach yr adeiladwyd yno gapel gan Mr. David Roberts, Bodrochwyn ganol, ar ei draul ei hun, ar anogaeth y Parch. John Davies, Nantglyn (Meth. Cym., iii. 279).

PENNOD II

O'r adeg yr Adeiladwyd y Capel cyntaf hyd ddiwedd oes y Parch. Thomas Lloyd.

HEBLAW y Bryngwyn a'r Nant Fawr, yr oedd gan yr ychydig Fethodistiaid yn Abergele a'r gymydogaeth, fan- cyfarfod yn y dref hefyd cyn adeiladu yma un capel. Ond ymddengys mai yr unig foddion crefyddol a gynhelid ynddo oedd cyfarfod gweddio, a hyny o bosibl yn unig yn achlysurol, weithiau ar y Sabboth, ac weithiau ar nosweithiau'r wythnos Eto gwneid cymaint o ddefnydd o hono, fel, er mai ty anedd ydoedd, yr adnabyddid ef gan bawb wrth yr enw "y Ty Cwrdd." Safle y ty oedd ar yr ochr orllewinol i Heol y Capel, ychydig yn is na haner y ffordd o waelod yr heol i'r capel presenol. Y gwr a gartrefai yno ar y pryd oedd un o'r enw Hugh Jones. Wedi crybwyll ei enw ef, anhawdd peidio cyfeirio at asbri yn gystal a chrefyddolder ei ysbryd. Yr oedd efe yn rhywfaint o fardd—o leiaf yn gynganeddwr. Ryw dro, pan yn dymuno cael awrlais newydd, anfonodd archiad am dano at Mr. Richard Griffith, Awrlais-wneuthurwr, Dinbych, tad yr hybarch Archdderwydd Clwydfardd, yn y geiriau canlynol:—