Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/150

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
CLADDEDIGAETHAU

CELWYDDWYR, CYBYDDION, MEDDWON,
GODINEBWYR, A LLADRON.

CLADDER y rhai celwyddog—yn eigion
Mawnogydd Pwll Arthog,
A'r cybyddion creulon crog
Yn mhydew Morfa Madog.

Holl feddwon bryntion ein bro—ergydier
I geudod Corsfochno;
Y llanerch erchyll hono
I'r giwdawd yn feddrawd fo.

Gwydiawg buteinwyr gwed'yn—anfoner
I fynydd y Berwyn;
Cladder a chuddier fel chwŷn—gwenwynig,
Y lluon eiddig yn nghors Llanwddyn.

Helier y lladron halog—a gwarsyth,
I gorsau Hiraethog,
Yn fyddin ddu anfoddog—i'w claddu
'N mhell ar i fynu'n mhyllau rhyw fawnog.

Eu cyrff dan warth ddosbarthir—ar wasgar,
A'u rhwysg a ostyngir;
Eu beddau'n awr, gwybyddir,
(Pwy ammau?) sydd mewn pum sir.

Felly, bobl, fe allai bydd—yn weddus
Cael gweinyddiaeth Clochydd;
Ni ddaw'r Person rhadlon rhydd
Yn agos i'r mawnogydd.