Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

ANWYL A HOFF GYDWLADWYR, yn Feirdd a Llenorion Cymreig o bob graddau,-Wele fi wedi achub y cyfleusdra presenol i gasglu yn nghyd ac argraffu ychydig o’m Cyfansoddiadau Barddonol, y rhai a gyfansoddais ar wahanol amserau, ac ar amrywiol destunau. Nid ydyw y Casgliad hwn yn cynnwys hanner fy ngweithiau ; oblegid dechreuais gyfansoddi pan yn fachgenyn o saith i wyth oed, ac aeth lluaws o ffrwyth fy myfyrdodau yn yr adegau hyny ar ddifancoll o herwydd fy esgeulusdra i ddiogelu yr ysgrifau gwreiddiol. Yr wyf yn gwybod am bymtheg o gerddi, a deuddeg o garolau, heblaw cannoedd lawer o englynion, sydd wedi myned ar goll. Nid wyf yn honi perffeithrwydd mewn dim o'm cyfansoddiadau, ac ni anturiais ymgyrhaedd at ryw bethau mawrion, namyn ychydig awdlau byrion, englynion, ac ambell gân rydd.

Oddeutu hanner can’ mlynedd yn ol, cefais rai misoedd o gyfeillach yr hen fardd athrylithgar Thomas Edwards (Twm o'r Nant ) yn y Bala, a dygwyddodd i mi yfed cryn lawer o'i ysbryd, can belled ag yr oedd yn milwrio yn erbyn egwyddorion treisiawl a gorthrymus; ond ymgedwais, hyd y gellais, rhag ymyraeth mewn un modd â chymeriadau personol neb, gan gofio ychydig linellau a welais yn un o ysgrifau yr hen fardd uchod, y rhai, yr wyf yn meddwl, oedd yn debyg i hyn,

"—Gorau'r lleia' siarado,
Gan y cynhyrfa llawer un swrth,
Mae'n debygol, wrth ei bigo. "

Felly cymerais addysg oddiwrthynt; ac yn hytrach na gwneud caniadau tuchanol i bersonau unigol, ymosodais ar egwyddorion a ymddangosent i mi yn ddrwg, a phleidiais, hyd y gellais, egwyddorion da. Gwel y darllenydd fod y Casgliad hwn yn cynnwys ymosodiadau collfarnol ar bron bob pechod gwaradwyddus a gyflawnir yn y byd drwg presenol. Yn awr, nid oes genyf ond ei gyflwyno fel y mae i sylw a nawdd fy nghydwladwyr caredig, yn Eglwyswyr ac yn Ymneillduwyr, o bob graddau, y rhai sydd wedi dangos cymaint o’u hewyllys da i'm cynnorthwyo yn fy anturiaeth bwysig, a hynny