92
Ni phalla'i ffyddlondeb
Rhag dyoddef gerwindeb y groes ;
Gwir Seilo groeshoeliwyd,
A drain fe'i coronwyd,
Fflangellwyd fe'i drylliwyd yn drist ;
Y byd a'i dirmygodd,
Iddewon a'i cablodd,
Ac hefyd anghredodd y'Nghrist;
Ar groesbren fe drengodd,
Mewn bedd y gorweddodd,
Dihunodd, cyfododd yn fyw ;
Cyfiawnder foddlonodd,
I'r nef yr esgynodd,
A'i eglwys gwaredodd gwir yw .
Cydganwn, clodforwn,
A chynes grechwenwn,
Dyrchafwn a molwn Dduw mawr ;
Iddewon, Cenhedloedd,
Cyd-unwn ar gyhoedd
A lluoedd y nefoedd Ꭹyn awr ;;
Pob perchen ffun genau
Molianed ar liniau,
Gan byncio perodlau pur iawn ;
I Grist Brenin Seion
Rhown foliant o'n calon,
A'i gariad yn ffyddlon coffhawn ;
Angylion a'i parchant,
A'r saint a'i canmolant,
Mynegant, eglurant ei glod ;
Mewn nefol dafodiaith
Fe'i molir fil milwaith
Tra byddo'r nef berffaith yn bod.