Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

15 a chwalwyd oddeutu 150 o latheni o Reilffordd Cwmni'r Great Western cydrhwng Dolgellau a Drws y Nant. Ger pont yr Wnion saif Gorsaf Rheilffordd Cwmni y Great Western o Gaerlleon i'r "Bermo," lle ei cysylltir â'r Cambrian. Agorwyd y darn rheil- ffordd o'r Bala i Ddolgellau oddeutu 34 mlynedd yn ol.

LLYS Y DREF.

Cyfodwyd yr adeilad rhagorol hwn yn 1825, gyda'r draul o £3000. Mae'r oll o'r ystafelloedd wedi eu trefnu allan yn y modd goreu gogyfer a'r oll o'r hedd-swyddogion. Ceir yn y brif-ystafell ddarlun godidog o Syr R. W. Vaughan, o waith brws a phaent y talentog Syr M. A. Shee, R.A., gynt Llywydd yn yr Athrofa Fren- hinol. Hyd y Llysdy ar ei wyneb yw 72 tr. ac 8 mod., a saif yn nghyraedd murmuron dibaid yr Wnion. Ceir yr hen Lysdy, dan nodau trymion henaint, ger porth dwyreiniol y corphlan, yn Lombard Street, a'i wasanaeth heddyw yw bod yn swyddfa cyf- reithwyr.

Y CARCHAR,# a'i ystafellau aml ac eang, a adeiladwyd yn 1811, gyda'r draul o £5000. Bu i'r carchar hwn gael ei hynodi trwy ddienyddiad yr "Hwntw Mawr," am ladd lodes o forwyn, ger Talysarnau, oddeutu 90 mlynedd yn ol; yna Cadwaladr Jones, am lofruddio a darnio Sarah Hughes, oed 37, morwyn i'w dad, yn Nghefnmwsoglog, Meh. 4, 1877. Dienyddiwyd ef ar ddydd Gwener, Tach. 23, a'r croesaw a ga'dd y crogwr (Marwood) gan y dosbarth isaf o'r trefwyr ydoedd, ei hwtio, a'i ddilyn à chawod o dywyrch, pa un wedi ei ddiogelu gan yr heddgeidwaid a chael i'r trên, a'u llon- gyfarchai à Dydd da," a gobeithio y cai ddyfod i ymweled â hwy oll yn fuan drachefn.

Bu y diweddar Ieuan Ionawr yn turnkey yma am hir flynyddau. Gŵr sarug, ac o dymherau blinion ydoedd Ieuan, a phan garcharwyd y diweddar Ddewi Hafhesb am adael ei wraig a'i blant, yn ddiamddiffyn, disgwyliai'r englynydd medrus fwy o diriondeb ganddo nag i ereill o'i gyd-garcharorion, yn nghysgod llên a barddas, ond yn hyn fe'i siomwyd ef. "Gwneuthum englyn iddo," meddai Dewi, "ac adroddais ef wrth y cythraul yn y drws wrth