Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Goron. Neilltuwyd tua phum erw o dir, a achubwyd oddi ar afradlonedd yn y fl. 1811, o gylch tair milltir i'r dref, at wasanaeth gweinidogion yr Eglwys Wladol. Y periglor presennol yw J. Lloyd.

EGLWYS ST. MAIR

Sydd adail brydferth, ac wedi ei gwneud o galchfeini amrywiol, o gynllun Groegaidd, ar uchaf y tir, yng nghanol y dref, yn helaeth gyda thwr ysgwâr, clychau, ond heb addurniadau mewnol nac allanol. Ym mynwent hon tery'r ymchwilydd â chofadail hen a hynod, yn dwyn ardeb (portrait) o fonheddwr mewn arfogaeth a chi yn ei ymyl, yn coffáu teulu henafol Fychaniaid o Nannau, sef Meurig ap Fychan ab Ynyr Fychan, y pumed mewn achau o Cadwgan ap Bleddyn ap Cynfyn, preswylydd Nannau, a disgynnydd o honno ef yw boneddigion y lle hwn heddiw. Darlinir ef mewn gwisg fail (hollow dress), cledd yn ei law, arf-dariain yn cario llew, ac yn drwyn yr arwyddair, HIC JACET MAURIC FILIUS YNYR FYCHAN, hynny yw Yma gorwedd Meurig fab Ynyr Fychan. Y mae parwydydd yr eglwys yn orlawn o dabledi, rhy luosog i'w gosod yma, o un i un am wahanol foneddigion, hen a diweddar, o'r plastai a geir yn britho cymoedd y dref, ac yn eu plith feddargraff helaeth yn y Lladin,i'r Parch. J. Jones, Archddeon Meirionnydd. At yr oll cyfeiriaf Ymwelydd â Dolgellau, er diddori ei feddwl a meddiannu rhagor o gyfoeth i'w ben, i'r cysegr hwn, i'w darllen oll yn ystyriol

YR YSGOL RAMADEGOL.

Saif yr ysgol hon yn Penbryn, a sylfaenwyd yn 1665, gan y Parch. John EIlis, D.D., periglor y plwyf, gan roddi cymynrodd o dyddyn o enw y Penrhyn yn Llanaber, er addysgu 12 o fechgyn tlodion : gadawodd Y Parch Ellis Lewis waddol, a gyfrifir yn ddyddiedig Awst 21ain, 1727, yr hwn ficer hefyd a roddodd dyddyn a elwir Cilgwyn, yn Llandrillo - yn - Rhos, a Ł50 at adeiladu ysgoldy. Ychwanegwyd drachefn Ł300 gan yr Hybarch Tamerlain, y periglor diweddar. Eglwyswr a benodir Swydd hon gan offeiriaid Dolgellau, a gofynnir iddo raddio yn Rhydychen neu Gaergrawnt, ac nid all dderbyn swydd Eglwysig ar wahân i'w alwedigaeth. Gwnaed atgyweiriad cyflawn ar yr ysgol hon yn 1852.