Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aros ei brawf ydoedd darllen y Beibl, a gwrandaw ar weinyddiadau ei gynghorwyr crefyddol.

Yn ystod ei brawf yn Mrawdlys Caerlleon, ymddygodd C. Jones yn yr un dull tawel a hunan-feddianol ag a'i hynododd o'r dechreu. Cafodd brawf teg ac anrhydeddus; rheithwyr diduedd a deallus; amddiffynydd galluog. Barnwr doeth a chymedrol; yn nghyda chyfieithydd medrus yn mherson y diweddar Mr. Pugh, cyfreithiwr, Treffynon, ond brodor o Ddolgellau, yr hwn a wnai yr holl weithrediadau yn ddealladwy i'r carcharor. Eithr, er pob ymdrech galluadwy o eiddo y dadleuydd dysgedig dros yr amddiffyniad, a chrynhoad cymedrol y Barnwr, nis gallodd y rheithwyr gonest yn amgen na dychwelyd rheithfarn o Euog yn erbyn y carcharor anffodus. Yr oedd cadwen y tystiolaethau, yn nglŷn â'i hunan-gondemniad, mor orthrechol fel nad oedd modd osgoi y canlyniad. A chyda theimladau dwysion y cyfryw a ddadguddiai y dyn gystal a'r barnwr cyhoeddwyd dedfryd marwolaeth ar y truan C. Jones.

Prin y gallaf feddwl i ddyn o deimladau tyner, ac o arweddi Gristionogol fel C. Jones, fwriadu y llofruddiaeth hwn; ond iddo, trwy gael ei ddigio a'i gythruddo, ar funyd gyffrous daraw Sarah Hughes â chareg yn ei phen, a'i lladd. Pe buasai C. Jones wedi rhoi ei hun i fyny a chyfaddef ei drosedd, credaf y daethai trwyddi yn lled ysgafn. Gwnaed deisebau ar ei ran gan dri lle-Dolgellau, un tros wyth mil o enwau; a Chaerlleon ac Aberystwyth, yn cynwys eu heddynadon a'u maerod.

Y VIA OCCIDENTALIS RUFEINIG.

Wrth syllu'n fanwl cenfydd yr ymwelydd ddarnau o'r uchod yn rhedeg trwy y dref, o'i gorsaf yn Menapiǣ (Ty Ddewi) i Seguntium (Caerynarfon): rhed ger Trawsfynydd, ac mewn lle a elwid "Pen- y-stryd," gwelir dernyn ohoni'n lled blaen. Rhedai y ffordd uchod ar hyd yr holl sir, o gyfeiriad y De, o orsaf Loventium, yn sir Aberteifi, gan redeg i'r Gogledd, heibio gwersyll mawr Pennal, a gorsaf Hereri Mons, hyd Segontium, a chyn cyrhaedd yno ceir