Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwsoglog, a daeth i dŷ ei chwaer grybwylledig, M. Hughes, lle yr arhosodd hyd ddydd Llun, ar yr hwn ddydd yr aeth ar ryw negeseuon i'r dref: a dyna y dydd diweddaf y gwelwyd hi yn fyw a thestyn y siarad drwy yr holl gymydogaeth, y dyddiau dilynol, oedd S. Hughes ar goll. Ac er dyfal a manwl chwilio y glynoedd, yr afonydd, a'r coedwigoedd, tywyllwch a orchuddiai yr amgylchiad. Ond fel y dywed yr hen air, Llofruddiaeth a fyn ddyfod i'r amlwg." Yn mhen tua chwech wythnos, sef ar yr 16eg o Orphenaf, canfyddwyd rhanau o gorph dynol yn nofio mewn gwahanol fanau o'r afon Arran, y rhai a adnabyddwyd fel gweddillion corph y ddynes golledig, Sarah Hughes; ac nis anghofir y rhawg y cyffro a'r arswyd a syrthiasai ar drigolion hen gwmwd tawel Dolgellau wrth weled y naill ran ar ol y llall o gorph y lofruddiedig yn cael eu hestyn o'r afon, Ilifeiriant yr hon a ymddangosai fel yn anfoddog i guddio y llofruddiaeth yn nyfnder y môr, Bellach, dyma sicrwydd fod llofruddiaeth wedi ei gyflawni, ond pwy oedd y llofrudd ? Oherwydd rhesymau neillduol, wele weision cyfiawnder, yn foreu ar y 18fed o Orphenaf, yn neshau at Y Parc," cartrefle fyrbarhaol C. Jones.. Haws yw i'r darllenydd ddychymygu nag ni ddysgrifio y teimladau a raid fod yn meddianu y gwr ieuanc pan edrychodd drwy y ffenestr, a gweled y swyddogion yn sefyll yn wyliadwrus o flaen ei anneddle. Mae yn ddiameu iddo glywed llais croch cyfiawnder yn taranu drwy ei gydwybod euog, "Ti yw y dyn!" oblegid cawn ef yn ebrwydd yn cyffesu, gan ddywedyd wrth y swyddwyr, "Waeth i chwi heb drafferthu yn mhellach: yr ydw i yn dymuno dyweud mai fi ddaru"! A chan arwain y swyddogion i ardd fechan gerllaw ei dy, dangosodd iddynt y llecyn y bu gweddillion y druanes lofruddiedig yn gladdedig am tua chwech wythnos; ac yn y fan wele fedd yn agoryd ei safn ac yn cyd-dystiolaethu â chyffesiad y carcharor.

A dyna olygfa gwerth i ieuengctyd i fyfyrio am dani yw meddwl am y gwr ieuanc, C. Jones, yn cefnu am byth ar ei gartref, priod ieuanc ei fynwes, a'i blentyn bach diniwed; yn cael ei gymeryd i'r carchar, a'r Llyfr ddiystyrasai, sef Gair Duw, yn ei logell. Da genym ddeall mai ei brif waith yn ystod y pedwar mis y bu yn