Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydoedd Catherine, merch ac etifeddes R. Vaughan Humphreys. Caer Ynwch, a breintiwyd hwy å deg o blant. Bu farw'n Llundain Tachwedd 11eg, 1823, yn 71 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Eglwys y Deml. Fel cyfreithydd a barnwr ceid ei benderfyniadau yn ddiysgog, ac fel cyfaill safai'n uchel yn ngolwg yr holl wlad. Y Barwn Richards oedd prif destyn Cymreigyddion Caernarfon Mawrth 1af, 1824, pan yr enillodd y diweddar henafiaethydd a bardd, Mr. Owain Williams o'r Waunfawr y wobr am yr Awdl Farwnad oreu iddo, ar ei gydymgeiswyr Gwilym Cawrdaf of Ddolgellau; Robert Owen, Caernarfon, a W. Williams, Dinbych.

"Y PARC."

Ceir yr annedd-dy diaddurn hwn mewn llanerch anghysbell a rhamantus, uwchlaw'r afon Arran, lle tyf llawer o goed; ac os bydd i'r teithydd gymeryd dyddordeb yn y llofruddiaeth a fu yma, tros 20 mlynedd yn ol, fe fwria ymaith yr helbul a gaiff wrth ddringo'r llwybr budr a charegog a'i harweinia hyd ato. Oni bai am yr amgylchiad hwn ni ddodasid engy'r Parc" ar lechres. hanesiaeth i geisio hudo'r ymwelydd tuag ato, ar a ddaw i Ddol- gellau a'r cylch.

Cadwaladr Jones oedd ŵr ieuanc tua 25 mlwydd oed, ac ymddengys oddiwrth amryw dystiolaethau a ddygwyd o'i blaid ar y prawf, gan feistriaid a chydweithwyr iddo, ei fod yn gymeriad eithaf dymunol ar y cyfan-yn ŵr ieuanc o dymher hynaws, ac o duedd ewyllysgar i wneyd cymwynas pan ofynid hynny oddiar ei law. Tua blwyddyn cyn y llofruddiaeth ymbriododd C. Jones, a chymerodd fferm fechan a elwir y "Parc," yr hon a saif mewn mangre wyllt a mynyddig uwch Dolgellau, a'r hwn lecyn sydd wedi ei ddu-nodi am oesau a chenedlaethau i ddyfod. Yn gwasanaethu gyda thad y carcharor yn Coedmwsoglog," yr oedd dynes o'r enw Sarah Hughes, tua 37 mlwydd oed, yr hon, yn ol addefiad ei chwaer, Margaret Hughes, ar y prawf, oedd yn fam i ddau o blant anghyfreithlon, y rhai ni thadogodd ar neb. Dydd. Sadwrn, yr 2il o Fehefin, 1877, ymadawodd S. Hughes o'r Coed-