Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ol y Cam. Regis., dyma arf-bais Ednowain:—"Gules three snakes enowed in a triangular knot argent." "Tair neidr arianaidd. mewn cwlwm trionglog yn y maes rhuddgoch." Yn ol Gwilym. Lleyn ar Achau Arglwydd Mostyn, deillia y pendefig hwn o Ednowain ab Bradwen (Golud yr Oes, tud. 459).

LLETY'R LLADRON.

Ar ochr ddeheuol Bwlch Oerddrws caiff y teithydd fangre fechan o ymgudd, lle'r arferai haid o ddrwgweithredwyr ymguddio, er manteisio ar ddiniweidrwydd ac eiddo'r sawl a elai heibio, mewn cyfnodau pell yn ol. Cyfeiriai eu ffau at dri phwynt: Dolgellau, Rhydymain a Dinas Mawddwy, a gwae'r bobl hynny at ddelid ganddynt. Yr oeddynt o wehelyth "Gwylliaid Cochion Mawddwy."

CAERYNWCH.

Yn ddiau, cara'r ymwelydd gael cipolwg ar y palasdy prydferth uchod, a saif ar esgynlawr deg, ac yn cael ei gysgodi gan wigfa urddasol, uwchlaw rheilorsaf fechan Bont-newydd. Yn hen ddeddfau'r Cymry sonir am Maeldaf ap Ynhwch Unarchen ap Ysbwys ap Ysbwch, ac mai tramoriaid oeddynt, a'u dyfod yma gydag Uthr ac Emrys, gan ymsefydlu ohonynt yn Moel Esgidion (Esgityawn), gan awgrymu "Moel Caerynwch." Dywed traddodiad y byddai marchnadoedd Dolgellau yn cael eu cynal ger y Foel hon yma ceir y "Farchnad Fawr," a'r Farchnad Fach."

Caerynwch ydoedd breswylfod y Barwn Richards, y cyfreithiwr enwog a anwyd yn nghym'dogaeth y Brithdir, Tachwedd, 1752. Addysgwyd ef yn Rhuthyn; aeth i Rhydychen, a dringodd risiau Ilwydd hyd ei etholiad i Gymrodoriaeth Michael yn Ngholeg y Frenhines. Cyn hir sangodd ddadleufa Cymdeithas Anrhydeddus y Deml Fewnol. Bu'n brif ynad Caerlleon yn 1813, ac yn y flwyddyn ganlynol yn un o Farwniaid yr Argedlys, a bu i farwolaeth Syr Alexander Thompson yn 1814, fod yn achlysur i'w dderchafu'n Arglwydd Brif Farwn y llys dywededig. Ei wraig