Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amser Bradwen gelwid y fangre Maes Crygenan, oddiwrth (a) pherthynai gynt (b) dyddyndy o'r enw hwn. Yr oedd y Llys yn un eang ac yn arddangos adeilad dwbl, yr adran fwyaf, yn y pen lletaf yn 100 tr., a'r pen arall yn 91 tr. Yr adran arall a fesura ffordd arall oddeutu 96 tr., ac ar yr ochr gyferbyniol oddeutu 92 tr. Saif y ddosran arall mewn un pen iddi 38 tr., neu efallai ychydig lai. Ceir ei hyd oll yn 44 tr., ac oddifewn y mesurir fel uchod. Pan ymwelodd T. Pennant (Tours in Wales) â'r lle safai, meddai, ddwy garreg ar bob tu i'r fynedfa, ond erbyn heddywi (1904) y maent wedi eu dymchwel o'u safle henafol,—syrthiodd y naill yn 1863, a'r llall yn 1876. Dywed traddodiad a hanes y byddai'r hen L. Morris yn cymeryd yr ail faen i orphwyso ei fraich pan fyddai, yn 1808, yn pregethu'r Efengyl i'r lluaws yn y lle. Rhoddir ar ddeall mai yn y darn helaethaf o'r palas y bywiai'r penaeth, ac mai llys barn ydoedd y gyfran arall o hono. Gelwir Bradwen yn Arglwydd Dolgellau, ond a ydyw yn rhywbeth oddi— eithr dynodiant y Llys hwn? Ychydig, os nad dim, a geir am Bradwen mewn hanes,—ei enw sydd fwyaf adnabyddus, ac ymwthia felly ger bron fel person ffugiol, eto gelwir y Llys ar ei enw, a cheir rhifres helaeth o bersonau yn perthyn i'w achau, mal y gwelir ar y terfyn. Ceid Bradwen yn wr o urddas mawr, yn ol yr achau, serch fod henafiaethwyr yn gwahaniaethu ychydig parthed y llinellau. Y mae'r Parch. Ed. Jones, Llandegai, yn ei alw'n Arglwydd Llys Bradwen, ac yn Arglwydd Meirionydd, tra y ceisia Robert Fychan, o Hengwrt, ei wneyd yn ddim ond Arglwydd Llys Bradwen yn unig, tra y ceid y tywysogion a'u disgynyddion, meddai, yn arglwyddi Meirionydd yn olynol a rheolaidd, serch y perchenogai yr oll o Dal y Bont, a rhai tiroedd yn Nghantref Ystumaner. Achau Llys Dolgellau: Ednowain ab Bradwen, ab Idnerth, ab Dafydd Esgid Aur, ab Owain Aurdorchog, ab Llewelyn Aurdorchog ab Coel, ab Gweryd, ab Cynddelw Gam, ab Elgyd, ab Gwerysnadd, ab Dwywe Lythyr Aur, ab Tegog, ab Dyfnarth, ab Madog Madogion, ab Sandde Bryd Angel, ab Llywarth Hen, ac Ednowain oedd dan Gruffydd ab Cynan, tywysog Aberffraw, yn Môn,