Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r Barwn Owen, ac "y gall olrhain linach ei henafiaid rai canoedd o flynyddau yn ol; ac y medr iachau dyn ac anifail, asio esgyrn, trwsio briwiau, a thynu dannedd cystal a nemawr feddyg." Fel y canlyn yr englynodd Meurig Ebrill i'r plas uchod:—

Llwyn eirian, gwiwlan, golau,—Llwyn siriol,
Llawn o sawrus flodau!
Llwyn enwog gerllaw Nannau,
Llwyn y beirdd a'u llawen bau.

Llwyn hen ydyw'n llawn hynodion—llachar,
A lloches cantorion:
Llwyn deiliog dan frigog fron,
Llwyn curawg yn llawn acron

Llwyn prydferth, mawr werth i Meirig—nesu
Bob noswyl arbenig:
Llwyn destlus, trefnus, lle trig
Difalch a rhydd bendefig.

Man anwyl yw'n min Wnion,—y ffriwdeg
Loyw ffrydiawl afon:
Canfyddir mewn cain foddion
Lwyni heirdd hyd lanau hon.

Gerddi rhosynog urddawl. — a llawnion
Berllenydd cynyrchiawl,
Per ffrwythau, llysiau llesawl,
Dillynion gwychion mewn gwawl.

Da adail pur odidog—yw'r annedd
Gywreinwych a chaerog
Mae coed fyrdd, mewn glaswyrdd glög.
O'i gwmpas yn dra gwempog


LLYS BRADWEN.

I henafiaethydd byddai gweled gweddillion hen balas Ednowain. Bendew, ger Dolgellau yn wledd a difyrwaith. Mab i Bradwen oedd Ednywain, a phenaeth un o Bymtheg Llwyth Gwynedd, ac yn ei flodeu yn y 12fed ganrif, neu yn nheyrnasiad Llewelyn ab Iorwerth, o gylch 1194, a meddai lawer iawn o feddianau yn sir Feirionydd. Ceir gweddillion yr hen Lys hwn ger glan ogleddol afon Pant y Llan, a'r lle a elwid "Maes Pant y Llan," ond yn