Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd y Rhosynau oedd y ffoaduriaid hyn, wedi taraw ar fangre dawel ac unig i fanteisio ar eu harferion drwg. A y rhai hyn i faes ffermwr a dygent oddiyno fuwch, neu ddafad, ac ni feiddiai neb eu beio, ac yr oedd y parth hwn wedi ei droi yn lloches lladron, ac yn encilfa yspeilwyr o'r fath waethaf. Ond wedi hir gwyno a dioddef, anfonodd y Llywodraeth orchymyn i'r Barwn Siôn Owen, a Wyn ab Meredydd o Wydir, i wneyd cais at lanhau y wlad oddiwrth y giwaid ysgymun hyn, a'u chwalu, bob copa walltog, yn hen ac yn ieuanc, trwy rym deddf, a gorchymyn y brenin.

Gorchymynodd L. Owen i fagad o wyr arfog wneyd eu hymddangosiad ger ffauau'r drwgweithredwyr, a rhuthro ar "Wylliaid Cochion Mawddwy," ar y 25ain o Ragfyr—nos Nadolig; a'r canlyniad fu i 80 ohonynt, ar lanerchau Mawddwy, y Dugoed, a Mallwyd, gael eu cymeryd yn garcharorion, a chael eu cospi yn ol eu haeddiant. Y rhai a ddiangodd a benderfynasant ymddial o'u cuddfanau yn y Dugoed. Yn mhen ychydig amser wedi'r rhuthr hwn, bu raid i'r Barwn fyned i Frawdlys Maldwyn (i'r Amwythig, neu Drallwm, meddid), ac i aflwyddo ei ffordd taflodd y mileiniaid ddarnau o goed ar draws y fynedfa mewn glyn coediog, er manteisio ei ddyfodiad ef a'i osgordd a'u gwyliadwriaeth ddyfal. Pan wnaethant eu hymddangosiad, danfonodd y gwaed-gwn gawod o saethau atynt, un o ba rai a aethai trwy ben L. Owen, fel ag y bu farw'n ddioed. Ffödd pawb am eu bywydau oddigerth câr iddo, John Lloyd o Geiswyn, gan amddiffyn y corff, ac ni cha'dd ef un niwed nac anhap. Dyddiad yr anffawd farwol ydoedd Hyd. 11, 1555. Wedi hyn, cododd y wlad oll yn eu herbyn, a mynwyd eu diwreiddio oll, wreiddyn a changen; lladdwyd llawer o honynt fel creaduriaid direswm, a gweddillion angau o honynt a ddiangasant i Wanas, at gâr iddynt o'r enw Siôn Rhydderch, yr hwn a'u cuddiodd mewn tâs wair, dros yspaid, ond a'u bradychodd wed'yn i law deddf, eithr ereill a adawsant y wlad, ac ni chlywyd air am danynt mwyach. Dywed Gwilym Berw yn "Y Perl" Awst, 1901, fod Mr. O. Owen, Hendre, Abergynolwyn, a brodor o Dalyllyn, Meirion, ac a anwyd yn 1812, yn ddisgynydd