Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y SWYDDFEYDD ARGRAPHU.

Saif Swyddfa Y Goleuad" (perchenog, Mr. E. W. Evans) yn Smithfield Lane, ar gyfer gorsaf rheilffordd y Great Western, er y fl. 1877; a Swyddfa "Y Dysgedydd" a'r "Dydd," yn Heol Meurig: perchenogion, Mri. W. Hughes a'i Fab. Dyma hen argraphdy R. Jones, John Pugh, tad y diweddar Mr. D. Pugh, cyfreithiwr, Treffynon; Evan Jones, a'r argraphydd presenol yn gwneyd y pedwerydd. Troir o'r Swyddfeydd hyn weithiau safonol, mewn arddull ragorol, ac nid oes yn Nghymru weithfäoedd i argraphu llyfrau o nodwedd uwch gan un cyhoeddwr nac anturiaethwr.

Y LLWYN.

Saif y palasdy henafol ac anfeiliedig hwn ar fin y dref, o fewn ergyd dryll i Ddolgellau, ac yn y darn gogleddol o honi, a ger y ffordd a arweinia y teithydd i ac o'r dref i'r Bala. Y trigianydd yw John Evans. Y mae i'r ty hwn ei hanes hynod a ganlyn: Yn nheyrnasiad Harri'r VIII. preswylid y Llwyn gan Lewis Owen, neu y Barwn Owen, fab Owen ab Hywel ab Llewelyn, Ysw. Hanai o'r cyff anrhydeddusaf yn Nghymru. Meddai ar etifeddiaeth o £300 y flwyddyn, yr hyn y pryd hynny oedd yn swm gwych ac uchel.

Am y naill gyfrif a'r llall, penodwyd ef gan Harri'r VIII. yn Is-ystafellydd a Barwn-Ganghellydd Gwynedd. Bu'n Sirydd Meirionydd o 1546 hyd 1555, ac yn Aelod Seneddol o 1547 hyd 1552 a '54. Ceid cym'dogaeth Llanymawddwy, y pryd hwn, yn llawn o wehilion cymdeithas, dyhirwyr lladronllyd, yn cael eu gwneyd i fyny o herwhelwyr (poachers) ac yspeilwyr wedi ffoi i'r parth hwn o'r wlad, i ddilyn eu harferion drygionus, trwy ladrata neu ladd; a'u bod ar waith, yn ol y Brut, yn amser Cadwgan ab Bleddyn ab Cynfyn, ac Owain ei fab, yr hwn a elwid "Owain Fradwr," a Syr Owain, oblegid iddo fyned i Lys Lloegr a chael parch ac urddas. Ar ol dianc oddiyno, a gwneyd llawer byd o ystrywiau anfad, efe a ddechreuodd y Gwylliaid; a bernir i epil ei garenydd Gwilym Goch, Arglwydd Mawddwy, fod yn cadw i fyny'r ysbeiliaeth am oesoedd. Bernir mai cwlion anfad Rhyfel-