Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

leoedd. Mr. Cadwaladr Jones, myfyriwr yn Athrofa Gwrecsam, ydoedd y gweinidog cyntaf yma, yr hwn a fu'n haul a thad i'r achos yn ei holl ranau, a than ei weinidogaeth ef y cychwynodd y Mri. O. Owen, Rhesycae, ac E. Evans, o Langollen, i faesydd eu gweinidogaeth. Y diweddar Mr. Thomas Davies, o'r "Green," a gyfrifid yn Apostol yr Ysgol Sabbothol. Gwr o'r Castellmarch, Llanrhaiadr-Mochnant, ydoedd, ac awdwr "Hyfforddwr yr Ysgol Sul," o'r hwn yr argraphwyd gwerth £100 o gopiau. Ei olynydd ffyddlon oedd Mr. Thos. Davies, o Athrofa Aberhonddu, a urddwyd Gorphenaf 21, 22, 1858. Symudodd ef yn mhen pedair mlynedd i eglwys Saesonaeg Painswick, Caerloyw, a bu'r eglwys heb weinidog am flynyddau. Caed addoldy newydd prydferth ar ffordd Penybryn, o werth £2000, trwy'r tir, ac agorwyd ef Meh. 4ydd a'r 5ed, 1868, a'r flwyddyn ganlynol daeth Mr. E. A. Jones, Llangadog, yn weinidog iddo, yr hwn a urddwyd gan y Parchn. J. Williams, Castellmawr; J. M. Davies, Maescwnwr; J. Jones, Machynlleth W. Griffith, Caergybi; J. Roberts, Llundain; W. Roberts, Aberhonddu; N. Stephens, Sirhowy, a W. Rees (Gwilym Hiraethog) Ganwyd Cadwaladr Jones yn Deildreuchaf, Llan- uwchllyn, Mai, 1783, a bu farw Rhagfyr 5ed, 1867, yn 85 mlwydd oed. Cyhoeddwyd cofiant dyddorol am dano gan y diweddar Barch. R. Thomas (Ap Fychan). Y gweinidog presenol-Parch. W. Parri Huws, B.D., er y flwyddyn 1896.

Y BEDYDDWYR.

Saif eu capel yn Heol y Gader, o'r brif-ffordd, ychydig latheni ar y chwith. Dwg y dystiolaeth ganlynol:

Capel Juda,

A adeiladwyd A.D. 1800.

A ail-adeiladwyd 1839.

"O Arglwydd ein Duw, yr holl amlder hyn a barotoisom ni i
adeiladu i ti dy i'th enw sanctaidd; o'th law di y mae, ac
eiddo ti ydyw oll."

Agos ar ei gyfer, ar y chwith, fel yr eir i'r dref, ceir capel Seisonig yr Annibynwyr (Rev. H. N. Henderson).