Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anffyddlon, daliodd ereill eu tir yn rhagorol. Bu baich o ddyledion a chyfrifoldeb yn drwm ar ysgwyddau'r brodyr ffyddlon, ond trwy râs ac amynedd lloriwyd y pethau hyn gan gariad Duw, fel ag y daeth yr Arch i orphwys yn ysgafnach ar feddyliau a chyd-wybodau y rhai ffyddlawn a selog, fel y gallasent lawenhau a dyweyd, "O'r Arglwydd y mae hyn oll, a rhyfedd yw yn ein golwg ni."

YR ANNIBYNWYR.

Yn ol Annibyniaeth Cymru." tud. 452, ceid Dolgellau yn un o orsafau arbenig yr hyglodus H. Owen, Bronyclydwr, bob tri mis, yn y Ty Cyfarfod." Bu gweinidogaeth yr Annibynwyr yn absenol yma am gan' mlynedd wedi marwolaeth Mr. Owen, ond wedi ymsefydlu o Mr. Pugh yn weinidog yn y Brithdir, pregethid ganddo ef a gweinidogion y cylchoedd yn y dref. Pregethid yn Llanilltyd cyn dechreu yma, a deuai aelodau oddiyno i gynorthwyo'r brodyr. Yn Mhen-bryn-glas y dechreuwyd pregethu gyntaf (Ebrill, 1808), pryd y prynodd Mr. Pugh addoldy'r Methodistiaid Calfinaidd yn y dref, a'r tai perthynol am £500, a bu'r ddwy blaid yn pregethu yn yr un lle, hyd nes yr oedd capel y M. C. yn barod. Evan Jones, tad Ieuan Gwynedd, oedd y cyntaf i ddechreu'r aelodaeth eglwysig. Gwelodd yr achos aml chwyldroad chwerw, rhai aelodau brwdfrydig ar y cychwyn, ond yn flin a'u gilydd, ac yn cefnu ar eu Duw a'u haddoldy, ond ereill yn dal y ddrycin fel y derw diysgog ar lawr dol. Bu ymdrechion Mr. Pugh yn rhagorol yn mhlaid yr achos: talodd £60 trwy gasgliad yn Llundain. Bu Mr. Pugh farw Hydref 28ain, 1809. Ymledai darn o wlad 18 milltir o hyd, a 12 o led, o Ddrws-y-nant i'r Abermaw, ac o Fwlchoerddrws i'r Ganllwyd heb weinidog i'r achos hwn ar y cyntaf, a'r holl eglwysi dan ddyled, oddigerth Rhydymain: £230 ar gapel Brithdir, trwy'r ty newydd a adeiladwyd gan Mr. Pugh; £20 ar Lanilltyd; £160 ar gapel y Cutiau, a £300 ar gapel Dolgellau. Casglodd Mr. W. Hughes, Dinas Mawddwy, £100 yn Neheudir Cymru; Parch. J. Roberts, Llanbrynmair, £20 yn yr Amwythig; Parch. W. Williams, y Wern, £40 mewn gwahanol