Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

defaid ar Fryniau'r Eglwys, yn Llanilltyd, y bu ef a nifer fach of frodyr yn cynal cwrdd eglwysig, gan ddechreu oddeutu haner nos. Bu i ymyriad deddf gwlad leddfu gryn lawer ar fôr tonog erledigaeth, a chawn i'r Efengyl daflu ei dylanwad ar galonau a phenau y bobl, fel ag y bu i erlidwyr crefydd ddyfod i ganmawl goruchwyliaeth grâs a gweinidogion y Testament Newydd. Hefyd, mae gan yr enwad hwn ei" Salem," ar ffordd Y Gader," dan ofal ei gweinidog llafurus, y Parch. R. Ernest Jones—eglwys amlwg mewn gweithgarwch a rhif.

Y TREFNYDDION WESLEYAIDD.

Cenfydd yr ymwelydd gapel tlws a gwerthfawr yr enwad hwn yn Wesley Street. Addoldy mor ddiweddar a'r f. 1880 ydyw; gwariwyd £3000 arno, a chynwysa 600 o eisteddleoedd, a rhifa'r eglwys 160. Y gweinidogion ydynt y Parchn. D. Thomas, Dolgellau; J. Cadvan Davies, 'Bermo, &c., a nifer o bregethwyr cynorthwyol. Cylchdaith Dolgellau, a gweinidogaeth symudol. Yn y f. 1802, daeth y Parchn. O. Davies, Wrecsam, a J. Hughes, Aberhonddu, i'r dref, a phregethodd Mr. Hughes oddiar y garreg-farch ger y Plas-newydd, oddiwrth Ioan iii. 16. Pregethodd yn gryf ar Gariad Duw." Wedi hyn ymwelodd y Parch. E. Jones, Bathafarn, a Mr. W. Parry, Llandegai, a'r lle, a phregethodd y naill oddiwrth Actau xxviii o a'r llall oddiwrth Jona xi. 9. Pregethasant drachefn gerllaw y Plas-isa, a'r nos Sul a'r Llun canlynol yn nghapel y Crynwyr, yr hwn oedd ddwy filltir yn y wlad. Yr ymweliad nesaf ydoedd eiddo'r Parchn. J. Maurice a G. Owen, a phregethasant ill dau yn y Plas-isa, ac yn fuan drachefn daeth Mr. E. Jones, a nodwyd, a phregethodd gydag arddeliad mawr. Pregethodd drachefn wrth y Bont-fawr, yn nhy Howel Jones, lle buwyd yn cynal odfeuon grâs am 25 mlynedd; yna symudwyd i Fronheulog, a Mr. Jones oedd y cyntaf i sefydlu. y gyfeillach eglwysig, a'r noson y'i galwyd gyntaf ymunodd 52, ac yma buwyd yn pregethu am ddwy flynedd, sef hyd y cafwyd y capel cyntaf, yn 1806. O hynny hyd yn awr bu llawer codiad a chwymp yn nglŷn â'r enwad hwn; profodd aml un o'r aelodau yn