Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddylanwad. Gwel "Gorchestion Beirdd Cymru," tud. 114-7-9, Arg. H. Humphreys. Ni chaniata gofod i ni gyfleu ei Lythyrau ef a H. Percy oddiyma at Frenin Ffrainc, er cystal eu dyddordeb, eithr ymofyned y darllenydd am danynt yn yr hen" Wladgarwr," "Cantref Meirionydd," a llyfrau ereill. Methai y diweddar Mr. Wynne, Peniarth, a chael y Cwrt" yn foreuach na'r 16eg ganrif, na Mr. A. B. Phipson ef tros y 15fed ganrif, ond adnabyddid ef o hynny i lawr gan y bobl â'r enw "Senedd-dy Owain Glyndwr:" ond, modd bynag, tynodd y Bwrdd Lleol ef i lawr yn 1881. Pe troisid ef yn gywreinfa, buasai'n gaffaeliad gwerthfawr i'r dref.

YR ADDOLDAI YMNEILLDUOL.

Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Saif "Bethel," capel prydferth a helaeth y Methodistiaid Calfinaidd, yn Smithfield Street, ac a adeiladwyd yn y flwyddyn 1877, gyda'r göst o £2500. Deil gynulleidfa o 2000. Rhif yr eglwys yw 260, a'r gweinidog yw y Parch. R. Morris, M.A., B.D. Ymddengys i'r Methodistiaid Calfinaidd bregethu eu hathrawiaeth gyntaf yn Nolgellau yn 1766, a phan ymwelodd y cenadon cyntaf cawsant y dref mewn cyflwr ysbrydol tra isel, ac felly y parhaodd hyd y Diwygiad Methodistaidd. Dywed "Methodistiaeth Cymru " na chafwyd hanes gymaint ag un offeiriad duwiol a glän ei foes wedi bod yn gweinyddu yn y dref, ond fod yr oll yn treulio bywyd anllad a phenrydd! Bu y llafurus a'r hynod Hugh Owen, Bronyclydwr, a Mr. Kenrick yma yn pregethu yn y Ty Cyfarfod," fel ei gelwir hyd heddyw; ond er eu hymdrechion a'u diwydrwydd ni chaed yr ysgogiad cyffredinol: achubwyd ambell un trwy eu gweinidogaeth, eithr yr un oedd ansawdd foesol y dref hyd ddechreu'r 18fed ganrif. Bu Howel Harris, Daniel Rowlands (lletyai ef mewn siop yn ymyl y Liverpool Arms), Vavasor Powel, Peter Williams, Mr. Ffoulkes (o'r Bala), Mr. Evans (Llanuwchllyn), Mr. Jones (Llangan), Lewis Evan (Llanllugan), a John Owen (Berthen-gron), yn cynyg y "newyddion da" i'r trefwyr. Danfonwyd yr olaf allan o'r dref heb gymaint a chael rhoi gair o gynghor i'r ychydig saint a'r bagad erlidwyr, a dywedir mai mewn corlan