darnau eraill ohoni. Ond ymdngys imi fod dwy sarn Rhufeinig yn rhedeg trwy gantref Meirionnydd, ac un ohonynt wedi ei gwneu mor foreu a'r ganrif gyntaf o'r cyfnod Cristionogol, h.y. wedi dyfodiad Agricola yma yn 78 O.C
Rhęd y Via Occidentalis ar lan Fawddach, trwy blwyfi Llanfachreth a Thrawsfynydd, hyd i afael a Dyfi ym Mhennal, ac y mae'n hawdd i lygaid yr hynafieithwr ei dilyn yn y lleoedd hyn. Rhęd y sarnau gyda'u gilydd am rai milltiroedd o Gastell Tomen y Mûr (Heriri Mons), yn nghyfeiriad Pen-y-stryd, ac un arall ymganghena trwy Gwm Prysor, tros y mynydd i Gaer Gai,[1] hyd Lanuwchllyn, ac yma ymwahana â'r lleill.
Ond y ddwy gyntaf. Yn Pen-y-stryd yr ymwahana y rhai hyn, neu efallai ger Dolgain; yna cyfeiria trwy goed Cefndeuddwr, hyd Rhyd Meirion, ac a heibio'n orllewinol i Gadair Idris. Yna a trwy Drawsfynydd hyd Lan Fachraith, tros fynydd Bwlchrhoswen, tua Nannau tros yr Wnion, tros Lwybr Cam Redynen am fynydd Gwastadfryn. Wedi hyn ceir hi ar Ffridd Nancaw Fawr, ger Nancaw Bach; yna croesa Gwm Llanfihangel, Cwm yr Aber, a thrwy Daran yr Hendre a'r Daran Fach, i ochr tir Pennal. Yna cyfeiria am afon Dyfi hyd Gefn Cader, lle yr oedd gorsaf Rufeinig
Yr ail Sarn o Domen y Mûr a ręd trwy Gae Mawr, trwy Drawsfynydd, trwy fangre y saif gorsaf y G. W. yn y Bala, trwy Gae Deintur, trwy Rhos Ucha, y Tyddyn Bach, Gilfach Wen, Pen-y-stryd; o'r lle olaf am Gwm Dolgain, ger Bedd Porus a Maen-hir (Llech Idris), gan groesi y Cain i dir Dol y Mynach. Yna cerdd heibio Pistyll Cain hyd Fryn y Gâd, trwy dir Pant-glas a Brynllin, gan groesi y Fawddach i Lan Fachraith, hyd fynydd Rhiwfelen. Wedyn gwelir darnau ar fynydd Dolcynafon, Cefn yr Eryr,
- ↑ Placed on an eminence. Camden says it was a castle built by onc Caius, a Roman. The Britons ascribe it to Gai, foster brother to King Arthur. It probably was Roman, for multitudes of coins have been found in the neighhourhood, and it is certain that it has been a fortress to defend this pass. Row. Fychan, Ysw., boneddwr a llenor, a chyfieithydd Ymarfer o Dduwioldeb, &c., a fywiai yma'n amser Siarl I.