Llan am amgeledd ysbrydol! Er yr ofergoel ynglŷn hon, bu ei dwfr pur yn feddyginiaeth at wahanol afiiechydon a thrachefn ni fu namyn "Ystęn Duw i estyn dŵr" Rai blynyddau'n ol cafwyd amryw fathodau ynddi, a rhai yn dwyn delw ac argraff o Trajan ac Hadrian, Ymerhawdwyr Rhufain Ar y naill ceid y geiriau hyn:—
IMP. TRAIANO AVG. GER DAC. P.M.TR.P COS.
V.P.P.S.P.O.R. OPTIMO PRINC.
Acar y llall y llythyrenau canlynol:—
IMP. CAESAR TRAIAN. HADRIANVS AVG.P.M. TR.
P. COS' 111.
Gwnaed maenwaith i ddiogelu y ffynon, ac i hwyluso y ffordd i ymwelwyr â hon, yn y blynyddau 1838—50, trwy arian y cyhoedd, ond er hynny y mae Ffynon Fair wedi syrthio i annhrefn, ac yn ddiwerth yn nghyfrif y trigolion ac ereill.
FFYNON Y GRO.
Rhęd y ffynon hon yn ffrwd loew ar wastadedd tir y Llwyn, gan daflu ei dwfr yn gawodau i'r Wnion, ger y Bont Fawr, ar y tu gogleddol iddi. Bu i'r ffordd haiarn newid gwely y darddell hon, fel nad ymddengys fel yn y dyddiau o'r blaen Bu Dafydd Ionawr awdwr hyglod cywyddau y Drindod, yn nyfroedd rhedegog ffynon, ar gyfer y Llwyn, ac oddiwrth ei englynion canmawl yn Ngwaith y bardd a gyhoeddwyd gan Mr. R. O. Rees, ymddengys i'r awenydd gael meddyginiaeth oddiwrth rhyw afiechyd anhysbys i ni, ac mai ger gwyneb yr hen blasdy a nodwyd y chwarddai ei dyfroedd tan wenau haul. Dyfynaf ei englynion :
O flin haint ac o aflan hwyl—farwol
Adferodd fi eilchwyl:
Cefais iechyd, hyfryd hwyl
Yn y ffynon hoff anwyl.