Yn min dwyffordd mewn dyffryn — gwyrdd y tardd
Gerddi teg gyferbyn;
I fardd ac i oferddyn
Yn gan' gwell nag yw gwin gwyn.
Brenhinbren derwen sydd dyst — haul eurwawr
Sydd laraidd oleudyst
D'wedant (a digon deudyst)
Ewch i hon a dim ni chyst
FFYNON Y FFRIDD ARW
Mae y darddell lygadlon hon i'w chael ar graig, ar fin y ffordd, yn nghyfeiriad Pont yr Aran, tua milltir o'r Bont Fawr. Ac os gwnai dwfr Ffynon Fair iachau y gewynwst, byddai i hon gryfhau yr holl gyfansoddiad dynol. Sonid am "Ffynon Rydd" a "Ffynon Lygaid," mangre y naill yn mynyddau "Cymru Fu" ydoedd mewn clawdd yn muarth Brynmair a'r llall ger plasdy o'r enw The Rock Cottage.
LLETY'R MWRDRWR
Ceir yr annedd adfeiledig hon ar lethr y mynydd, uwchlaw ffordd yr hen stage coach o Ddolgellau i'r BaIa, ac ar gyfer Y Llwyn a gorsaf y rheilffordd. Ca'dd yr enw uchod, medd traddodiad, am i'r "Hwntw Mawr" ddianc o gell ei garchar, lle saif Gwesty'r "Einion" hyd yma a chysgu noswaith ynddo cyn ei ddienyddiad. Dywed yr hen Bobl fod gweddillion o'r trawst crogi yn aros eto yn neu odeuty adfeilion yr hen garchar
Y FARCHNADLE
Fel mynychwyr lluosog trefi eraill Cymru cyrchai lluaws gwlad a gwerthai y maelwyr eu nwyddau amrywiol—ymenyn, cigau, dofednod, &c.—ar yr heol a lleoedd anghyfleus ereill, yn nghanol gwynt a gwlaw, cyn y fl. 1870, pryd yr agorwyd y marchnad—dy â chiniaw cyhoeddus yn ei phrif lofft — 76 tr. wrth 39 tr. Dyddiau ei marchnad ydynt Mawrth a Sadwrn