Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DOLSERAU

sydd balas harddwych, ac yn meddiant Charles Edwards, Ysw., er y fl. 1858. Disgyna, fel ei hynafiaid-Oweniaid Dolserau, a Lewis Owen, y barwn o'r Llwyn, o Ednywain Bendew ab Bradwen. Pendog, un o Bymtheg Llwyth Gwynedd; ac o'r ochr arall of Ednowain ab Bendew, un o Bymtheg Llwyth Gwynedd, ac o Madog Meredydd, Tywysog Powys Fadog, yr hwn oedd yn ŵyr i Bleddyn ab Cynfyn. Nis gellid dilyn y teuluoedd hyn trwy eu. llin hir o achau amrywiol, mewn traethawd o derfynau prin fel hwn, eithr ymfoddloned yr ymchwilydd a'r ymwelydd â'r hyn a fynegwyd, gan gyfeirio llygad a meddwl at waith helaethach, "Cantref Meirionydd," gan y diweddar R. Prys Morris.

BRONWNION.

Preswylfod eang a harddwych Cyrnol Wicklam a saif ar lethr dymunol, ar ffordd Rhyd-wèn, ac fe ddichon i'r englynion clodforus canlynol o eiddo Meirig Ebrill greu awydd yn rhywun am wel'd yr adail gadarngref a wena mewn hoen a balchder uwch dyfroedd tryloewon yr Wnion henafol:-

Bronwnion bery'n enwog-am oesau
Uwch meusydd blodeuog;
Mor wiwddest a mawreddog
Mae'n edrych dan glaerwych glôg.

O'i gwmpas mae teg wempog-gadeiriaw!
Goed irion gwyrdd-ddeiliog;
Lle hawddgar i'r gerddgar gôg,
A'r eos fwyngu rywiog.

Band hyfryd ar hyd yr haf-eu gwelir
A golwg prydferthaf:
Parhant yn eu tyfiant daf,
Nis gwywant hirnos gauaf.

Llonwych rodfeydd dillynion-sy' yno,
Rhwng rhosynau gloywon:
Oll yn ferth, mor brydferth bron
A sawrus flodau Saron.