Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac ar lechfeini yn ymyl ceir yr englynion canlynol yn gerfiedig:—

Anneddfawr sanctaidd noddfa,—gôr breiniol,
Ger bron Duw a'r dyrfa:
Er dim na thyred yma,
Y dyn, ond â meddwl da.

Awn i'w Borth a'n aberthau,—gwedd dduwiol,
Gweddiwn ar liniau:
Am drugaredd breisgwedd brau
Yn un nod i'n heneidiau.

Bu eglwys lai yn sefyll gynt ar lawr yr eglwys hon. Bu llawr yr eglwys bresenol yn loriedig drwyddi â beddfeini, canlyniad aflerw ac anheilwng o gladdu meirwon yn yr eglwysi, yn yr 8fed ganrif. Dynodir yr unrhyw heddyw â beddfeini lliwiedig, ac à choed, a'r llawr hwn a ystyrir yn uwchlawr, er y flwyddyn 1856. Cyfrifir mai adeiladydd yr eglwys hon yw yr Archddiacon G. Lewis, yr hwn sy'n gladdedig yn ei changell (chancel)'. Ei roddion iddi ydynt bwrdd yr allor o farmor du, &c. Perthynai llofft iddi gynt ar ei chŵr gorllewinol, ond symudwyd yr uwchrodfa hon yn 1809. Clochdy petryal a fedd, yn cynwys wyth o glychau, o'r flwyddyn a enwyd; eithr yn flaenorol ni cheid namyn un, pa un a chwilfriwiwyd wrth ddathlu clod aer ac etifedd Caerynwch, pan y daeth i'w oed. Y mae'n gorphwys yn ei llawr, ar ei thu gogleddol, weddillion yr Archddiacon White, odditan fynor—faen caboledig lliwiedig, ac yn dwyn ei enw a'i amryfal rinweddau mewn bywyd. Efe a anrhegodd yr eglwys â'r ffenestr orwech nesaf i'w orweddfa. Cyfansoddwyd marwnad ryglyddus am yr Archddiacon gan Robert Lewis, un o destynau Cyfarfod Llenyddol Gwŷr ieuainc Dolgellau.

"CAPEL GWANAS"

a saif ar fferm yr Erw Goed. Adeiladwyd hwn oddeutu'r flwyddyn 1740, gan foneddwr nas gwn ei enw, gogyfer à gwasanaeth Eglwysig, ond ni ddefnyddiwyd ef i'r cyfryw amcan. Am i un Elis Jones drigo ynddo y ca'dd ei enwi fel uchod.