Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"TWLL Y FLEIDDAST"

sydd yn nghlawdd terfyn Cefn yr Ywen Isa' a'r Uchaf. Ysglyfid defaid ac wyn i rif mawr yn y gymydogaeth hon, gan fleiddiaid, tua 150 mlynedd yn ol, fel y penderfynwyd gan y colledwyr wneyd ymchwil, a gwneyd dinystr cyflawn a llawn ar y giwed lofruddiog hono, a letyai mewn ogof gerllaw. Y canlyniad a fu, lladd yr oll -yn benau-teuluoedd a chenawon. Bu bleiddiaid mor luosog ar fynyddau Meirion fel ag y bu i Edgar, y brenin, dalu teyrnged o 300 o grwyn bleiddiaid ar dywysogion Gwynedd, am dri thro, ac i Iorwerth I. anfon Peter Corbet yn ddinystrydd arnynt.

"LLYN Y FFRIDD FAWR."

Dyma "Lyn yr Hwylfa" gan y werin, a nodedig am ei hesg a'i babwyr y naill i wneyd cefn-dresi (back-bands) a choleri i geffylau, ac o'r llall y gwneid canwyllau. Dygid y pethau hyn i'r farchnad mor ddiweddar a 1844, a'u pris (y gêr gyntaf) ydoedd 18 ceiniog. Meddai llethr y llyn hwn amddiffynfa led ëang, gynt.

"RHOS TY'N LLIDIART"

sydd ddarn o fferm, yn mha un, yn y flwyddyn 1832, y cafwyd delw hynod mewn math o ysgrîn. Tebygai i berson dynol, a dygai argraff annealladwy. Tybir mai eilun-dduw oedd, feallai o'r un cymeriad a'r un a gloddiwyd yn Llanfihangel Din Sylwy, Môn, yn 1831. Bu i grefyddwr penboeth, o'r enw Shion Gruffydd, gipio hon o ddwylaw ei blant, a'i thaflu i'r tân, "rhag (meddai) iddynt ei haddoli"!

"CAE CARREG Y BIG."

sydd ger Pont Dyffrydau a'r Afon Gôch. Safai dau faen hir ar y maes hwn gynt, ond yn y flwyddyn 1822, breuddwydiodd rhywun am grochan aur oddidanynt, fel ag y bu i Vandaliaid ddiorseddu'r talaf o'r ddau er d'od o hyd i'r trysor breuddwydiedig; eithr tebyg fu y cyfoeth hwn i gostrel y Gwyddel gynt, pan ddeffrodd nid oedd na chostrel na chwisgi ger bron, am yr hyn yr edifarai