Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Paddy, na buasai'n gallach gyda'i hyfed cyn deffro! Modd bynag, cafwyd bedd rhwng y "meini," ac esgyrn ynddo—gweddillion Derwyddol yn ddiau.

"CRAIG Y CASTELL"

a welir ar dir "Tyddyn-islaw'r-dre," a ger troed Cader Idris. Bu caerfa salw yma'n foreu, wedi ei gweithio heb galch, gan y dengys y gweddillion na fu cymrwd yn cuddio asenau'r cyfryw erioed. Meddianai'r gaer goryn y bryn, ond y mae y gwarchglawdd wedi diflanu agos oll. Ceid dwy fynedfa yn perthyn iddi, a'r rhai hyn yn ymgolli yn eu gilydd. Ger llethr y mynydd hwn gwelir olion Sarn Rufeinig yn gyfeiriedig igam-ogam ei llwybr anhygyrch, a dyma a rydd gyfrif am ei galw gan y werin yn Llwybr Cam Rhedynen." Gerllaw ca'r teithydd dyddyn o'r enw "Erw'r Gwyddy!" (Gwyddelod), yr hwn a wna i mi feddwl mai y genedl hon a luniodd y ffordd hirgul dan sylw.

"BRYN MAWR."

Enwid yr amaethdy hwn i sylw'r ymwelwr am y caed bedd ynddo, esgyrn maluriedig, a darn o bren yn dwyn hoelion pres ceuol, rai ohonynt ar ffurf calon, ac ereill yn cario cynllun o rif. nodau. Gorchuddid y bedd â llechfaen yn dwyn y prif lythyrenau A. H.," ond y darganfyddwr, yn ei frys am arian a gredai a gaffai yma, a dorodd y garreg yn ddeuddarn, ac felly a golledodd rif ein creiriau henafiaethol.

"LLYN Y GADER GOCH."

Gorwedda hwn yn yr Wnion, ger y Bont Fawr, a defnyddid ef yn yr hen amserau i drochi troseddwyr y gym'dogaeth. Delid y pechadur a rhoddid ef mewn math o gadair goch er ei hwyluso i'r dyfroedd islaw, trochid ef yn ei wrthol gan amryw mwyaf hylaw o'r dorf ymgynulledig. Pan ddelid troseddwyr ar odineb, neu bechod arall, codai tyrfa allan, ac elai ereill, nid llai eu trosedd, feallai, ar eu holau mal gwaedgwn: delid un neu ddau o'r ffoadur-