Gwin llawn gwir a iawn, llyna'r gras—a gawn
Y gan fab Nicolas,
Ei darogan hyd Wanas
Ydd wyf ar ol Adda Fras.
Medd Owain Williams o'r Waenfawr yn "Ngheninen" Gor., 1892. Credir i'r Gader fod yn llosgfynydd rhyw oesau pell yn ol. Oddeutu y fl. 1861, ymddangosodd yr hanes canlynol (beth bynag am y ffaith ohono) mewn cyhoeddiad cyfrifol, pa un a ddifynwyd y flwyddyn ganlynol gan ddetholydd cynyrchion dyddorol "Cymru Fu," o dan y penawd "Cader Idris," pa un a ddyfynwn air am air, gan hyderu y bydd o fantais i'r ymwelydd â Dolgellau yn rhyw ystyr neu gilydd
"Gerllaw godreu Cader Idris y safai palasdy bychan y Talglyn, a breswylid gan ddarn o wr bonheddig o'r enw Gruffydd, yr hwn oedd wr gweddw ar y pryd, a chanddo ddau fab a thair o ferched. Yr oedd y merched hyn yn meddu cryn lawer o swynion personol, yn enwedig yr ieuengaf, yr hon, er mwyn hwylusdod a alwn yn Gwenlliw. Anfynych y cyfarfyddodd cynifer o ragorolion yn yr un person. Gwenlliw ydoedd canwyll llygad ei thad, gan mor debyg ydoedd i'w diweddar fam, a'i brodyr a'i chwiorydd a dybient nad oedd ei bath o fewn y byd. Nid oedd yn debygol chwaith y diangasai y ddau lygad gleision dysglaer hyny, a'r gwallt sidanog, arianaidd, a'r ffurf luniaidd, wisgi, ysgafndroed, rhag edmygwyr yn mysg cenedl sydd mor hoff o lendid a thegwch gwedd. Ond nid oedd Gwenlliw chwaith yn ddifai mwy na rhyw dlws daearol arall: ac os gweddus adrodd. ffaeledd delw mor bur o brydferthwch, bai y wyryf hawddgar hon oedd ei bod braidd yn rhy on a phenderfynol. Un haf daeth câr i'r teulu ar ymweliad â'r Talglyn o Loegr, gwr ieuanc o gyfreithiwr, a swynwyd ef gymaint gan degwch Gwenlliw fel y syrthiodd i gariad â hi tros ei ben. Trwy gydsyniad y rhieni o'r ddwy ochr dyweddïwyd y pâr ieuanc y pryd hwnw; eithr oherwydd ieuenctid y wyryf, gohiriwyd y briodas am flwyddyn neu ddwy yn mhellach. Dychwelodd Griffin (y boneddwr ieuanc) i Loegr i efrydu a thrin y gyfraith, ac a welodd flwyddyn cyhyd