yn un o'r marchogion oedd yn bresenol yn nghoroniad y brenin Arthur. Cwympodd yn nghâd olaf y teyrn hwnw â'r Rhufeiniaid. Ar lan afon Carrog, yn Arfon, yr huna.
Eto,—
"Bed Guydion ap Don yn Morva Dinllen,
Dan fain dyfeillion,
Garanawe y geiffyl Meinon."
Nis gall Carnhuanawc ddeongli namyn y llinell gyntaf. Gwna ymgais fel hyn:—"Dan y meillion man," medd rhai; "Dan feini a meillion," medd ereill; ac am y gair Garanawe, ni wyddys pa un ai enw priodol yw, ai nad e." Amryw flynyddau yn ol, arosai gweddillion nodedig a elwid Carneddi Hengwm, yn Ardudwy, a berthynent i'r Derwyddon, y rhai a amgauent am esgyrn rhai o ddewrion yr ardal honno, pan oedd yr hen genedl yn ei thrafferthion mwyaf gyda'i chrefydd a'i châdau âg estroniaid. Ond galarus yw adrodd ddarfod i ryw Vandaliaid o Gymry gario meini a wnai i fyny'r beddau uchod, i godi gwahan—furiau tyddyn gerllaw iddynt!!
"Gwanas pob urddas eurddull Padrig,"
a olyga gynhalydd, gan Fadawg fardd i esgob Bangor.
"Marchwiail bedw briglas,
A dyn vyn troed a wanas,
Nac addef dy rin y was,"
sy'n driban Derwyddol, yn golygu cyffion, neu sefyllfa o gaethiwed.
"Ac eur coeth ar ddiwanas."
A cheir ei ystyr yn foglam, ag ymddiddan rhwng Ugnach ab Mydno a Thaliesin,―
"Afallen peren pren hyduf glas,
Pywaur y chagev hy ae chein wanas."
Gwedd neu ffurf a olygir gan y diweddar Hybarch D. Sylvan Evans. Safai eglwys a chorphlan Gwanas gynt am yr afon a Thy Bach y Llan, a choffheir y naill âg ywen yn y blynyddau hyn,