Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac y mae'r penill canlynol a "Dol y Ddelw" yn coffhau'r un pethau,—

"Mae yno ynn ac ywen drefnus,
Mae yno ywen lân gariadus;
Mae yno gapel mawr ei rinwedd,
Lle mae'r ddelw lwyd yn gorwedd."


Fel yna y saif hanes lleoedd a phethau yn nghroniclau Cymru Fu, pan oedd Dolgellau fel ei phreswylwyr yn gwisgo unplygrwydd a symlrwydd Cymreig pobpeth mewn hanes personau a lle yn dwyn teithi plaen a gonest, ac os oedd llai o ddysg a defodaeth eglwysig ar gerdded, meiddiwn ddyweyd nad oedd hanes cymeriad gwlad fymryn îs mewn ystyr gymdeithasol nag ydyw heddyw, er ei bost mewn addoldai, colegau, ysgolion a chyfleusterau lu mewn cyfeiriadau ereill. Medr y pethau a enwyd wella penau dynion, ond rhaid cael yr Athrofa uchod i ddwyn calon dyn i drefn, a gwyn fyd yr ychydig bobl hynny a änt yn effeithiol trwy surgery. gras Duw. Sieryd "adgof uwch anghof" ynom am yr Ymwelydd â Dolgellau cyn i'r un argraphwasg gael y fraint o ddwyn enw y dref na'i Chader o flaen y cyhoedd, cyn i olwyniad trystfawr y gerbydres aflonyddu ar heddwch mynwentawl y gym'dogaeth, nac i newyddion y fro gael eu treiglo ymaith trwy gyfrwng y llythyrdy a'r mellt. Safai'r Gader—hen Arsyllfa Idris—y pryd hwnw mor dalgryf ag heddyw, ac a weithredai ei rhan fel Edna, neu Vesuvius, gan ei dirdyniadau (convulsions), er braw a rhyfeddod i Ddolgellau a'r cylchoedd. Yn mha gyfnod y chwareuai'r mynydd hwn ei gampau tanllyd a rhwysgfawr, nis gwn,—cyn neu wedi oes Idris Gawr, ni sieryd hanes na thraddodiad, gan na welodd un gohebydd yn dda gario'r digwyddiadau i Echo ei oes. Ond erys Cader Idris yn ddigryn y dydd hwn, er fod tònau amser wedi cario holl enwogion y fangre hynod i "ffordd yr holl ddaear." Y mae'r dref yn arddangos llawer o'i hen ddiwyg Cymreig, er cymaint o fyned i fewn ac allan y bu yr holl genhedloedd, a gwena'r Wnion a'r Aran ar bawb a phobpeth, fel arferol, gan awgrymu'n gellweirus nad posibl newid anianawd y Cymro i'w dynu i lawr, rhag niweidio ysbryd a thrâs y cymeriad cenedlaethol, a fu mor hynod yn nodweddu ei gyndadau.