Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DIWYGWYR CYMRU.

PENNOD I.

NODIADAU RHAGARWEINIOL.

Am dros dri chan mlynedd bellach, mae Diwygwyr Cymru wedi bod yn canlyn eu gilydd mewn gwir olyniaeth Apostolaidd ddi-dor. Gwir fod rhai Diwygwyr wedi gwneud eu hymddangosiad yn y Dywysogaeth mewn cyfnodau llawer boreuach na'r un y cyfeiriwn ato. Rhaid mynd ymhellach yn ol na Dewi Sant, acnag Awstin Fynach, cyn dod o hyd i Ddiwygwyr Cristionogol cyntaf Cymru. Ond nid â'r cyfryw, eithr a Diwygwyr Cymru yn y cyfnod Protestanaidd, y mae â fynnom yn awr.

Nid yw yn adlewyrchu llawer o glod ar Brotestaniaeth foreuol Cymru mai yn Lloegr y rhaid i ni edrych am rai o brif ddylanwadau cyntaf y Diwygiad Protestanaidd yn ei berthynas â'n gwlad, ac yn wir am rai o'r prif offerynnau yn nygiad y cyfryw Ddiwygiad i weithrediad ymarferol. Ymffrostia Cymru yn y ffaith ei bod hi wedi cael ei Christioneiddio ymhell o flaen Lloegr; eithr gall y wlad y tu draw i Glawdd Offa ymffrostio ddarfod iddi hithau gael ei Phrotestaneiddio ymhell of flaen y Dywysogaeth. Os bu ein gwlad ni yn hwy nag eiddo'r Sais cyn dod o dan awdurdod y Pab, cadwodd y Babaeth ei gafael yn hwy ac yn dynnach ar Genedl y Cymry nag ar y Saeson—ac mae olion amlwg o'r dylanwad hwnnw yn aros ymhlith y genedl hyd y dydd heddyw mewn aml i gyfeiriad ac arferiad lle na ddrwgdybir ei bresenoldeb.

Am o leiaf y can mlynedd cyntaf mae hanes Diwygwyr Cymru yn dwyn cysylltiad mor agos âg eiddo Lloegr fel mai amhosibl o'r bron yw eu gwahanu, ac ymarferol ofer a fyddai ceisio eu