Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwahaniaethu. Gellir dweyd yn agos yr un peth am gychwyniad y gwahanol Enwadau crefyddol yn Lloegr a Chymru, ac am berthynas y cyfryw a'r Eglwys Sefydledig Brotestanaidd. Am gyfnod hir wedi i Ymneillduaeth ddod yn allu cryf a chydnabyddedig yn y wlad, nis gellid gydag unrhyw radd o sicrwydd wahaniaethu rhwng Eglwys Anibynnol ac Eglwys Fedyddiedig. Mae dau beth yn cyfrif am hyn, sef ynghyntaf fod yr Eglwysi Bedyddiedig yn Anibynnol o ran natur eu ffurf-lywodraeth Eglwysig, ac yn ail fod aml un o'r Eglwysi boreuol yn Eglwys. gymysg.

Un o'r gwersi cyntaf a ddysgir gan y neb a fynno astudio'n gydwybodol hanes boreuol Anghydffurfiaeth a'r Enwadau Ymneillduol, yw peidio gosod gormod pwys ar enwau a thermau, ac yn arbennig i beidio rhoi ystyr rhy gyfyngedig iddynt. Mewn cyfnod llawer diweddarach na'r un a roddodd fodolaeth i enw y daeth yr enw hwnnw i olygu yr ystyr gyfyngedig a gysylltir ag ef yn ein meddyliau ni. Er engraifft ceid aelodau, a chlerigwyr, ac hyd yn oed Esgobion Eglwys Loegr, ar un adeg, yn cael eu cyfrif a'u galw yn Anghydffurfwyr tra eto yn dal cysylltiad a'r Sefydliad; erbyn hyn ni olyga'r enw neb ond ar sydd o'r tu allan i'r Sefydliad. Felly hefyd y term. "Dissenters"; cynhwysai ar y dechreu bob Ymneillduwyr, eithr yn ei ffurf sathredig o "Sentars" cyfyngir ef yn meddyliau llawer, hyd yn oed yn ein dyddiau ni, i un enwad yn unig. Ar y llaw arall, mae'r ffurf Cymreig o'r enw, "Ymneillduwyr," wedi ymeangu gyda threigliad amser; cynhwysa yn awr yr holl Enwadau Ymneillduol Protestanaidd,—ond gan mlynedd yn ol cyfyngid ef i'r Bedyddwyr a'r Anibynnwyr yn unig. Felly hefyd. am yr enw "Presbyteriaeth" a "Phresbyteriad." Un o beryglon. y myfyriwr arwynebol yw tybied fod yr enw, fel y'i cymhwysid ef at gorff neu gymdeithas o grefyddwyr gynt, yn golygu yr un peth a olyga heddyw. Fel mater o ffaith, anhawdd, os nad amhosibl, a fyddai gwahaniaethu rhwng Eglwys Bresbyteraidd ac Eglwys Anibynnol yn y dyddiau gynt. Nid oedd Presbyteriaid cyntefig Lloegr a Chymru yn credu mewn, nac yn arfer,