Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

na fu 'rioed helynt efo fo; ond 'dwyt ti ddim ond ifanc, pham na faset ti yn gadael i rywun fel Edward Morgan siarad a chodlo,—dyn sydd ganddo dy iddo fo'i hun, a buwch, a mochyn? Ond waeth tewi. Beth ddaw o honom ni ydi'r pwnc 'rwan?"

BOB,—"Mam! nid fel yna ddaru chi nysgu i. Gwna dy ddyledswydd, a gad rhwng y Brenin Mawr a'r canlyniadau,' oedd un o'r gwersi cyntaf ddysgasoch i mi. Nid yw hyn ond y peth oeddwn yn ei ddisgwyl. Mae yn rhaid i rywun ddiodde cyn y daw daioni i'r lliaws; ac os ydw i ac ychydig ereill yn cael ein gwneyd yn fwch dihangol i'r tri chant sydd yn gweithio yn y Caeau Cochion, ac os bydd i ni fod yn foddion i ddwyn eu rhyddid oddi amgylch, a'u llesad, popeth yn dda. Nid ydwyf wedi dweyd un gair ond y gwir, a'r hyn y mae pawb sydd yn y gwaith yn ei gredu a'i deimlo, ond eu bod yn rhy lwfr i'w adrodd yn gyhoeddus. Fel y dywedais, rhaid i rywun ddioddef er mwyn y lliaws. Mae y'ch Llyfr chi,—y Beibl, yn son llawer am aberthu er mwyn ereill—

MARI LEWIS,—"Taw a dy lol; fedra i ddim diodde dy glywed di yn siarad. 'Does ene ddim son am streics coliars yn y Beibl; ac os wyt ti yn mynd i gymharu y row ene â dim sydd yn y Beibl, mae'n bryd i ti fynd i'r Seilam pan y mynnost."

BOB,—"Cymerweh bwyll, mam; os nad oes cymhariaeth, y mae yna gyfatebiaeth, ac am gyfatebiaeth yr ydw i yn son.

MARI LEWIS,—"Hwde di, paid di hel dy eirie mawr efo fi; dydi y gair cyfatebiaeth ddim yn y Beibl nac yn 'Fforddwr Mr. Charles."

BOB,—"Mi wn, mam, nad ydych wedi darllen Butler' ar Gyfatebiaeth"

MARI LEWIS,—"Bwtler! Be wyt ti yn son am dy fwtler wrtha i? Rhyw bagan fel ene, nad ydi o byth yn mynd i le o addoliad, ond i'r Eglwys, ac na wyr o ddim ond am gario gwin i'w feistar."

BOB (yn chwerthin),—"Nid bwtler y Plas oeddwn yn feddwl, ond yr Esgob Bwtler,—dyn da a duwiol."

MARI LEWIS,—"Wel, sut bynnag, yr wyt ti wedi ei gwneyd hi heddyw. Welest ti mo John Powell? Be oedd o yn feddwl o'r helynt?"