Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ACT II.

Y TWMPATH,—CARTREF TOMOS A BARBARA BARTLEY.

PEDAIR CADAIR A BORD GRON. MAINC GRYDD A MAN DDODREFN.

GOLYGFA 1.—BARBARA yn y ty.—Tomos yn sefyll wrth ei fainc weithio.

TOMOS,—"Wyddost ti, Barbara, fod Rhys a Mari Lewis yn dod yma heno? Mae'n arw gen i o nghalon dros Mari Lewis, wn i ddim ar affaeth hon y ddaear sut mae gwraig mor dda yn cael cymaint o drwbwl. Claddu Bob yn gap ar y cyfan! Faint ydi hi o'r gloch, Barbara?"

BARBARA,—"Saith, Tomos."

TOMOS,—"Wel, mi ddon gyda hyn. Dyma nhw ar y gair. Wel, dowch i mewn."

(Enter MARI LEWIS a RHYS).

TOMOS,—"Wel, dyma chi o'r diwedd. Tynnwch y'ch pethe, Mari, a mi neiff Barbara baned i ni yn union deg, yn newch chi, Barbara?"

BARBARA (yn nodio),—"Gwnaf siwr, Tomos bach."

TOMOS,—"Mari, ydach chi'n meddwl fod Bob erbyn hyn wedi deyd wrth Seth fod Barbara a finne wedi dwad i'r Seiat? Hynny ydi, os daru o drawo arno fo, achos mae yno gymin o honyn nhw i fyny ene, onid oes?

(BARBARA yn paratoi te).

MARI LEWIS,—"Am wn i, hwyrach i fod o, Tomos."

TOMOS,—"Wel, 'does bosib na thrawan nhw ar 'u gilydd ryw dro. Cynt y cyferfydd dau ddyn na dau fynydd, mae nhw'n deyd,—(Swn Moch), Mari, dyma'r moch gore fu gen i 'rioed am ddwad yn 'u blaene."

MARI LEWIS,—"Mae nhw yn edrach yn farus iawn, Tomos."

TOMOS,—"Rown i 'run ffig am fochyn os na fydde fo yn farus. Mi fyte rhein y cafn bydae nhw ddim yn cael 'u pryd yn 'i amser. Hwn-ene heb yr un gynffon ydi mistar y cafn.