PENNOD XII.
NOSON YN Y GOEDWIG
R oeddwn i gael un daith fythgofiadwy arall cyn canu'n iach à Bro Hydref, ond 'rwy'n digalonni wrth feddwl am geisio dweyd yr hanes. Mynd i weled cewri'r goedwig oedd yn tyfu ar lethrau Gorsedd y Cwmwl: coed pin, coed bedw, etc., anferthol o faint, fel pe'n ceisio efelychu'r cawr gwyn oedd fry yn y cymylau uwch eu pennau. Dywedai Daler bethau anhygoel am danynt, a minnau yn orlawn o gywreinrwydd, ac er ei bod yn amser prysur yn y Fro, a ninnau, y cwmni gwladfaol yn prysur bacio, bu raid gadael pob peth a chychwyn.
Nid oedd y ffordd ymhell, meddai'r arweinydd; dim ond i ni gychwyn ganol dydd, a mynd å byrbryd gyda ni i'w fwynhau yng nghysgod y cewri, a dod yn ol fin yr hwyr wrth ein hamdden. Onid yw'r rhaglen yn darllen yn rhwydd a syml? Eithr na thwyller chwi, ddarllenwyr