Prawfddarllenwyd y dudalen hon
cyfamod yn fy medydd; llithraf a chwympaf aml waith ar
ddyrus lwybrau bywyd, ond ni fyddaf byth yn unig mwy.
Cwmni dedwydd iawn oedd yn cyrraedd Troed yr
Orsedd nos Nadolig, a minnau y dedwyddaf o bawb, ac
un o freuddwydion fy mebyd wedi ei sylweddoli yn ei
holl felusder. A chwithau, ddarllenwyr mwyn, gobeithiaf
fod i bob un o honoch ryw freuddwyd melus, ac y daw i
chwithau sylweddoliad a mwyniant anhraethol.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5b/Dringo%27r_Andes_%28page_102_crop%29.jpg/200px-Dringo%27r_Andes_%28page_102_crop%29.jpg)